Cyfarfu Is-grŵp Plant y Bartneriaeth Ranbarthol ar 21 Hydref 2022 i ganolbwyntio ar ofalwyr ifanc. Cawsant becyn gwybodaeth, cyflwyniad a gwylio dau fideo a oedd yn crynhoi’r dystiolaeth gan gynnwys ystadegau a data, adborth gan ofalwyr ifanc ac enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio’n dda mewn meysydd eraill. Yna cawsant gyfle i siarad a meddwl gyda’i gilydd am yr hyn y byddent yn gweithio gyda’i gilydd arno fel rhan o Gymuned Ymholi.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y dull a ddefnyddiwyd gennym, gweler ein blog Ffocws ar blant a phobl ifanc.
Yn dilyn amser i fyfyrio a sgwrsio am y cyflwyniad a’r fideos, bu’r grwpiau’n cydweithio i gynhyrchu cwestiynau i’w trafod.
Y cwestiynau oedd:
- Pa gymorth sydd ei angen arnom i ddarparu rhieni i helpu gofalwyr ifanc i gyflawni eu potensial?
- A allwn ni, ac os, sut allwn ni gynyddu ymwybyddiaeth yr holl randdeiliaid sydd angen gwybod hanesion bywyd gofalwyr ifanc yn ein sefydliadau a hwyluso arferion i hyrwyddo canlyniadau cyfartal?
- Sut ydym ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd mewn lleoliad addysgol er mwyn iddo fod yr amgylchedd person-ganolog gorau i bawb?
- Sut gallwn ni ddefnyddio dull systemau neu amlddisgyblaethol i atal gwasanaethau rhag gorfodi gofalwyr ifanc?
Dewisiodd y grŵp gwestiwn 3 i’w drafod: Sut ydym ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd mewn lleoliad addysgol er mwyn iddo fod yr amgylchedd person-ganolog gorau i bawb?
Roedd syniadau’n cynnwys:
- Creu cymuned o amgylch ysgol. Mae’r rhan fwyaf o blant yn treulio llawer o’u hamser yn yr ysgol ac mae athrawon yn canolbwyntio ar ddarparu addysg dda. Trwy adeiladu cymuned o amgylch ysgol gallwn ddod â chefnogaeth asiantaethau eraill i mewn i gefnogi gofalwyr ifanc. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw ein systemau yn amharu yn ogystal â gwneud yn siŵr bod digon o gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar anghenion pob plentyn.
- Mae rhai enghreifftiau da ar Ynys Môn o ddatblygu cymunedau o amgylch ysgolion gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar drawma. Mae’r holl ysgolion a’r cymunedau y maent wedi’u lleoli ynddynt yn wahanol, felly mae angen i unrhyw ddull fod yn hyblyg â’r gallu i addasu i bob sefyllfa.
- Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam hefyd yn gweithio i ddod yn brifysgol sy’n gwybod am drawma ac yn datblygu Cymuned Ymarfer lle bydd pobl yn gallu rhannu eu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd am sut i wneud hyn.
- Gall fod llawer o ffocws ar yr angen am bresenoldeb da a all wneud bywyd yn anoddach i ofalwyr ifanc a phobl ifanc eraill sydd â rhesymau da dros beidio â gallu mynychu ysgolion. Gall ymagweddau hyblyg a hybrid at bresenoldeb fod o gymorth mawr ond yn aml caiff ysgolion eu barnu yn ôl eu cyfradd presenoldeb a all wneud y dulliau hyn yn fwy anodd. Mae angen inni weithio gyda rheoleiddwyr ac arolygwyr Estyn i ddatblygu dull sy’n gweithio i bob plentyn a pherson ifanc.
- Mae angen i ni gyd-gynhyrchu polisïau ysgol gyda gofalwyr ifanc, er enghraifft ynghylch bod yn hwyr neu gael oriau agor hwy yn yr ysgol er mwyn iddynt gael lle tawel i wneud gwaith cartref.
Y camau nesaf yw llunio cynllun gweithredu i sicrhau bod y pethau hyn yn digwydd. Yn y cyfamser, dywedodd y bobl a gymerodd ran y byddent yn rhannu’r fideos gyda’u cydweithwyr mewn ysgolion a phartneriaid eraill, a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.
Beth yw eich barn chi?
Ydych chi’n ofalwr ifanc neu’n rhywun sy’n cefnogi gofalwyr ifanc? Ydych chi’n meddwl bod y rhain yn syniadau da ac a oes unrhyw beth pwysig yr ydym wedi’i golli? A oes gennych chi syniadau ar sut y gallwn drwsio pethau ac a hoffech chi fod yn rhan o’u trwsio?
Cysylltwch â Luned Yaxley os oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu gyda ni.
Gyda diolch i Nick Andrews, o’r prosiect Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) am hwyluso’r sesiwn.
Lawrlwythwch
Fersiwn hygyrch o gyflwyniad a phecyn gwybodaeth gofalwyr ifanc (testun yn unig, html)
Dolenni i’r fideos
Ap gofalwyr ifanc (yn agor mewn safle allanol, sgroliwch i lawr i weld y fideo)
Fideo gan ofalwyr ifanc yn Lloegr (Saesneg yn unig)