Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dod ag iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, y trydydd sector a phartneriaid eraill at ei gilydd i symud ymlaen â darparu gwasanaethau cyfun effeithiol yng Ngogledd Cymru.
Gyda’n gilydd yn gwella iechyd a lles pobl a chymunedau
Cynrychiolydd Gofalwyr
- Ydych chi’n darparu gofal i rywun sydd angen gwasanaethau gofal a chymorth?
- Ydych chi eisiau chwarae rhan allweddol wrth wneud penderfyniadau am Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru?
- Os YDYCH, yna efallai mai hwn yw eich cyfle CHI!
- Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dymuno penodi cynrychiolaeth Gofalwyr ar y Bwrdd.
- Cynrychiolaeth gofalwyr i’w recriwtio i ymuno â’r Bwrdd o fis Mawrth 2022 am dymor o 2 flynedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y cyfle cyffrous hwn a chael y Pecyn Gwybodaeth llawn, cysylltwch â Catrin Roberts, Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol Catrin.Roberts@denbighshire.gov.uk 01824 712521
Datganiadau o ddiddordeb i’w cyflwyno i : Catrin.Roberts@denbighshire.gov.uk erbyn 28ain o Fawrth 2022.
