Beth ydych chi’n gredu ddylai gael ei gynnwys yn Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru?
Gallwch ddweud eich barn drwy’n arolwg ar-lein neu drwy lenwi’r fersiwn hawdd ei ddeall o’n holiadur isod a’i bostio yn ôl atom.
Os hoffech gael sgwrs â rhywun, dros y ffôn neu ar-lein yna cysylltwch ag Emma o’r Panel Dinasyddion er mwyn trefnu hyn drwy anfon e-bost at emmapugh@cvsc.org.uk neu ffonio 01492 523844.
Anfonwch eich atebion yn ôl atom erbyn dydd Gwener 20 Gorffennaf 2018 os gwelwch yn dda.
Ynglŷn â’r strategaeth
Mae’r strategaeth yn rhan o gynllun y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i wella ac integreiddio gwasanaethau yng Ngogledd Cymru ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag anableddau dysgu. Mae’n cael ei ysgrifennu gan y chwe chyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ogystal â phartneriaid eraill.
Am y newyddion diweddaraf am y prosiect ac am wybodaeth am ffyrdd eraill i gymryd rhan, gweler newyddlenni’r strategaeth anabledd dysgu.