Rydym yn y broses o ddechrau llunio strategaeth dementia ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd yn strategaeth partneriaeth wedi’i ysgrifennu gan iechyd a gofal cymdeithasol, pobl yn byw gyda dementia, gofalwyr a phartneriaid eraill. Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Pam rŵan?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia ac wedi cynnig rhagor o gyllid trwy’r Gronfa Gwasanaethau Integredig i gyflawni’r cynllun gweithredu. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod yr hyn y byddwn yn ei wneud yng Ngogledd Cymru yn cyfrannu at gyflawni’r nodau yn y cynllun gweithredu ac yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael i ni. Y blaenoriaethau yn y cynllun gweithredu yw:
- Lleihau risg ac oedi’r cychwyniad
- Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
- Cydnabod ac adnabod
- Asesu a diagnosis
- Byw gyda dementia cystal â phosib, ac am mor hir â phosib
- Yr angen am ofal cynyddol
Adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio ar hyn o bryd
Rydym yn dymuno i’r strategaeth adeiladu ar y gwaith da sydd wedi’i wneud yn barod ar draws Gogledd Cymru a’r gwersi a ddysgwyd o brosiectau blaenorol. Os oes gennych adroddiadau ymgynghori, gwerthusiadau, strategaethau neu gynlluniau a fyddai’n ein helpu i lunio’r strategaeth yna rhowch wybod i ni.
Sut i gymryd rhan
Byddwn yn hysbysebu digwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan yn ein strategaeth ar ein gwefan. Os hoffech gael eich ychwanegu i’n rhestr bostio yna rhowch wybod i ni.