• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Cartrefi Gofal i Oedolion: Gwasanaeth Brechu Rhag y Ffliw Tymhorol 2019/20

Cartrefi Gofal i Oedolion: Gwasanaeth Brechu Rhag y Ffliw Tymhorol 2019/20

03/01/2020

Mae manylion am Raglen Genedlaethol Imiwneiddio Rhag y Ffliw ar gyfer 2019-20 wedi’u hamlinellu yn llythyr Blynyddol y Ffliw- WHC 2019 (015). Yn yr un modd â’r llynedd, bydd yr holl staff sy’n gweithio mewn cartrefi preswyl i oedolion a chartrefi gofal oedolion, gyda nyrsio, sydd â chyswllt rheolaidd â phreswylwyr, yn gymwys i gael brechiadau ar y GIG yn rhad ac am ddim trwy fferylliaeth gymunedol. 

Mae’n ofynnol i fferyllwyr gadarnhau cymhwysedd cyn darparu’r brechlyn i bobl sy’n bodloni’r meini prawf hyn. Yn amlwg, os yw staff yn hysbys i staff fferyllfa, neu os oes ganddynt fathodyn adnabod sydd â llun, sy’n eu dynodi’n glir fel aelod o staff mewn cartref gofal i oedolion, mae hyn yn hawdd ei wneud.

Fodd bynnag, os nad yw hyn yn wir, rydym eisiau ei wneud mor hawdd â phosibl i’ch staff gael manteisio ar y brechiad felly mae taleb ynghlwm y gallwch ei hargraffu / ei llungopïo a’i chwblhau â manylion aelodau’r staff unigol a’u cyfeirio at y fferyllfa agosaf sy’n cymryd rhan (gweler http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/  am y gwasanaethau a gynigir gan fferyllfeydd lleol).

Er mwyn annog pobl i fanteisio ar y brechiad gymaint â phosibl, rydym wedi bod yn annog fferyllfeydd cymunedol i ddarparu clinigau ar gyfer eich staff yn y Cartref Gofal (ar yr amod bod modd darparu cyfleusterau addas i’r perwyl hwn). Os byddai hyn o gymorth i chi a’ch staff, cysylltwch â’ch fferyllfa leol er mwyn gweld p’un a ydynt yn gallu darparu hyn. Os na allwch drefnu hyn trwy fferyllfa leol, cysylltwch â’r unigolyn perthnasol isod, a fydd yn ceisio rhoi manylion fferyllfa arall i chi sy’n gallu darparu hyn.

Bydd brechiadau ar gael gan fferyllfeydd lleol o ddechrau mis Hydref.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm Rheoli Meddyginiaethau:

  • Sir y Fflint/Wrecsam: Simon Gill ar Simon.Gill@wales.nhs.uk
  • Conwy/Sir Ddinbych: Rory Wilkinson ar Rory.Wilkinson@wales.nhs.uk
  • Ynys Môn/Gwynedd: Gwyn Peris-Jones yn Gwyn.Peris-Jones@wales.nhs.uk 
Ffurflen gais Cymraeg

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Cynhwysiant Digidol

Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!

  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Rhagflas i Ofal
  • Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital