Beth yw Labordai Byw?
- Mae Labordai Byw wedi cael ei ddisgrifio fel methodoleg, ecosystem a chymuned; maent yn cyd-greu, archwilio arloesedd, mannau cydweithio traws sector lle mae defnyddwyr y byd gwirioneddol yn canolbwyntio ar ddyluniad cynaliadwy sydd yn allweddol.
- Yn ymarferol, pan fyddwch yn rhan o labordy byw byddwch yn cymryd rhan mewn proses sydd yn cynnwys pobl o wahanol leoliadau a phrofiadau sy’n rhannu eu dealltwriaeth o’r pwnc, datblygu ac adeiladu ffordd ar y cyd o weithio, i gyflawni’r amcan a gytunir ac atgyfnerthu’r dull.
- Mae’n canolbwyntio ar bobl, gan ddefnyddio dull agored a chreadigol, i ddarparu buddion i gyfranogwyr ac ar gyfer polisi ac arferion parhaus.
Beth yw bwriad/ canlyniad bwriadedig?
Daeth y syniad o edrych ar Labordy Byw o’r Strategaeth Ymchwil ac Arloesi Bwrdd Iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae’n eistedd yn dda o fewn sefydlu’r Hwb Cyd-lynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant Gogledd Cymru. Y prif amcanion yw:
- Deall y broses o Labordy Byw a bod cyfranogwyr yn gallu defnyddio’r technegau yn eu gwaith, a
- I gael dealltwriaeth gyffredin o beth yw rhaglen Ymchwil, Arloesi a Gwelliant a beth mae’n olygu i ni gyd yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Gellir adolygu’r rhain i fod yn amcanion ar y cyd gan bob cyfranogwr yn ystod y gweithdy cyntaf.
Beth fyddai’n gael oddi wrth hwn?
Byddwch yn cael y cyfle i symud drwy’r broses Labordai Byw, profiad o sut mae’n gweithio a gweld y manteision o fod yn rhan o hyn – a gallwch fynd â hyn yn ôl i’ch maes neu leoliad eich hun. Yn ogystal byddwch yn gallu cyfrannu at a thrafod diffiniad o arloesi ac ymchwil sydd yn gweithio i ni ar draws partneriaid Gogledd Cymru, y gallwn eu defnyddio i ddatblygu’r hwb.
Beth mae’n ei gynnwys, faint o amser sydd rhaid i mi ei ymrwymo?
Mae’r broses Labordy Byw yn cynnwys tri cam – Canfod gwybodaeth ac amcanion, Datblygu prototeip a chysyniad profi, ac i Drefnu dysg i ddulliau priodol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd Academi Hyfforddi Asiantaeth Arloesol (Rhwydwaith Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd ar gyfer Gogledd-Orllewin Arfordir Lloegr – rhan o fraich arloesol y GIG) yn ein cefnogi yn y gweithdai hyn.
Cyfanswm yr ymrwymiad amser yw un diwrnod (dros ddwy sesiwn hanner diwrnod) y mis am dri mis. Bydd ychydig o ‘weithgareddau yn y canol’, sydd i’w penderfynu yn ystod y sesiynau hyn, ac yn cydnabod bod rhaid iddo fod am amser byr gan fod gan bawb amserlenni prysur.
Bydd y gweithdai hyn yn datblygu o’i gilydd felly gofynnir i’r un bobl fynychu pob sesiwn.
Pwy arall fydd yn y sesiynau?
Bydd y gweithdai yn gweithio orau gyda chymysgedd eang o bobl a swyddogaethau. Mae’n bwysig bod y grŵp yn cynnwys pobl sydd mewn sefyllfa i symud y dysgiadau a chamau gweithredu hyn ymlaen i’w sefydliadau perthnasol. Rydym yn rhagweld y bydd cyfranogwyr yn dod o sefydliadau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ac o wahanol sefydliadau – felly gall fod yn uwch academyddion, arweinwyr rhwydweithiau, cyfarwyddwyr neu uwch reolwyr maes iechyd/gofal cymdeithasol, cyfranogwyr sydd gyda swyddi arweiniol a mwy.
Pryd y cynhelir y gweithdai?
Mae’r gweithdai yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd i’w cynnal ar ddau hanner diwrnod ym mis Rhagfyr (2il, 9fed), dau ym mis Ionawr (13eg, 20fed), a dau ym mis Chwefror (17eg, 24ain).
Faint fydd y gost?
Dim cost, mae’r gweithdai yn cael eu hariannu’n llawn gan y Hwb Ymchwil, Arloesi a Gwelliant.
A oes arnaf angen mynediad at unrhyw dechnoleg i gymryd rhan?
Ar gyfer y dyfodol agos, fydd popeth ar-lein felly’r hyn oll fydd arnoch ei angen bydd cyfrifiadur, gliniadur neu ddyfais symudol a chysylltiad â’r we. Y pecyn cynadledda fideo y byddwn yn defnyddio o bosib fydd Teams, Zoom neu rhywbeth tebyg. Byddwn yn anfon popeth y byddwch ei angen ymlaen llaw a bydd cefnogaeth dechnegol ar gael yn ystod y sesiwn i’n cadw ar y trywydd iawn.
Rydym yn deall bod rhai problemau gyda chydweithwyr iechyd yn defnyddio Zoom.
Ble ydw i’n cofrestru!
I ddatgan diddordeb yn hwn, anfonwch e-bost at Ffion.Davies@denbighshire.gov.uk erbyn dydd Iau, 29 Hydref. Byddwn yn anfon dolen gofrestru atoch wedyn. Mae’r nifer y llefydd yn gyfyngedig felly byddwn yn eu dyrannu i sicrhau bod cymysgedd dda o bobl o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhowch wybod i ni os bydd gennych unrhyw anghenion mynediad, megis cael deunyddiau digwyddiad ymlaen llaw a/neu mewn fformat benodol.