Cynhaliwyd cynhadledd Social Value Cymru yng Nghanolfan Fusnes Conwy ar y 9fed o Hydref. Mantell Gwynedd sy’n arwain ar Social Value Cymru, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag AVOW, FLVC, Medrwn Môn, CVSC a DVSC i gefnogi mudiadau yn y trydydd sector i ymwreiddio gwerth cymdeithasol yn eu mudiadau, a dangos sut gall data ar werth cymdeithasol oleuo eu penderfyniadau. Mae’r prosiect yn gweithio gyda 25 o fudiadau sydd oll yn darparu gwasanaethau yng ngogledd Cymru.