Ydych chi’n darparu gofal i rywun nad yw’n gallu ymdopi heb eich cefnogaeth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed?
Fel Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru (BPRh), hoffwn roi gwybod i chi fod gennym swydd wag i Gynrychiolydd(ion) Gofalwyr ymuno â’r Bwrdd.
Mae BPRh yn annog unigolion sy’n ofalwyr (neu wedi bod) i gymryd rhan ac ymgysylltu’n weithredol yn y broses gwneud penderfyniadau. Gallwch ddweud wrthym am eich profiadau o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella.
Rwy’n credu’n gryf, pan ddown at ein gilydd, ein bod yn gwneud pethau’n well i bawb.
Isod fe welwch ragor o wybodaeth am y BPRh a’r rôl. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau wedi’u cwblhau cyn y dyddiad cau: Dydd Gwener, 30ain Mai 2025.
Gyda diolch,
Cyng Dilwyn Morgan, Cadeirydd BPRhGC
