Ar ddydd Gwener, 27 Tachwedd 2020, cyhoeddodd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yr Adroddiad Blynyddol 2019/20. Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys Uwch Swyddogion Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chynghorwyr ynghyd â chynrychiolwyr i ofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth, darparwyr gofal, trydydd sector, gwasanaethau brys a thai.
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn cynnwys ac yn adolygu Partneriaethau a Rheolaeth y Byrddau ynghyd â diweddariad o’r cynnydd yn erbyn yr amcanion.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru “Mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol 2019/20.
Roed 2019/20 yn flwyddyn brysur arall i’r bartneriaeth. Ein ffocws ar ddechrau blwyddyn 2019/20 oedd darparu ein rhaglenni trawsnewid ac wrth gwrs roedd y dull ‘Cymru Iachach’ yn ategu ein holl ystyriaethau Rwy’n edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth yn ystod y misoedd nesaf ar y gwahaniaeth y mae’r rhaglenni hyn yn ei wneud i bobl Gogledd Cymru.”
Gellir darllen neu lawrlwytho’r Adroddiad Blynyddol 2019/20 yn: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru neu gael copi drwy ffonio 01824 712432.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Bethan Jones-Edwards
Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol:
01824 712432 / bethan.m.jonesedwards@denbighshire.gov.uk