Bydd y digwyddiad yma yn gyfle i arddangos a rhwydweithio mwyaf blaenllaw i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda rhywbeth ar gyfer pob aelod o’r gweithlu gofal – o’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru i gyfarwyddwyr ac uwch reolwyr gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, yn ogystal â myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Cynhelir cynhadledd 2018 yng Nghaerdydd, 12-13 Medi 2018.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys cyfleoedd i noddwyr ac arddangoswyr, ewch i wefan y gynhadledd.