Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod datblygiadau technegol sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth ynglŷn â sefydliadau a gwasanaethau trydydd sector perthnasol rhwng Infoengine a Dewis Cymru yn awr yn weithredol.
Cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru yw Infoengine. Fe’i darperir a chefnogir gan Gefnogi Trydydd Sector Cymru, partneriaeth o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae ganddo dros 4,000 o wasanaethau a gynigir gan sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Mae’r nifer hwn yn cynyddu bob dydd.
Gwefan yw Dewis Cymru sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â llesiant yng Nghymru. Darparir y wefan gan Data Cymru ar ran y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’n cynnwys cyfeiriadur o dros 6,000 o wasanaethau lleol a chenedlaethol gan gynnwys gwasanaethau llywodraeth leol, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a busnesau. Mae Infoengine yn ychwanegu cyfeiriadur cynhwysfawr o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau trydydd sector sy’n ei wneud yn ffynhonnell unigryw o wybodaeth i’w ddefnyddio ar draws Cymru. Mae hefyd yn cynnwys set o dudalennau gwybodaeth sy’n helpu pobl i feddwl am ‘beth sy’n bwysig’ iddynt, a’u galluogi i ddod o hyd i gymorth ymarferol lleol.
Mae’r datblygiad yma yn enghraifft arbennig o gyd weithio rhwng y trydydd sector a’r sector gyhoeddus yng Nghymru, ac mae’n sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd ac i’r rheini sy’n paratoi gwasanaethau cyngor a chefnogaeth iddynt ar draws Cymru. Yn ymarferol, bydd gwybodaeth ar gael ar y ddau wefan gwaeth pa bynnag un mae’r wybodaeth yn cael ei ychwanegu arno.