Lead Organisation:
Ddydd Llun 14 Hydref 2019, cynhaliodd Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd ddigwyddiad i ddarparwyr cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu. Nod y digwyddiad oedd darparu cyfleoedd i ddarparwyr gwasanaeth rwydweithio, rhannu arfer da, trafod a bwydo i mewn i gynlluniau gwaith.
Roedd 55 o weithwyr proffesiynol yn bresennol yn y digwyddiad a chawsant gyfle i drafod sawl pwnc gan gynnwys cefnogaeth weithredol, technoleg gynorthwyol, gwaith ystyrlon, iechyd, cynnydd, cefnogaeth, risgiau a recriwtio, hyfforddi a chadw staff.
Mae rhai sylwadau o’r digwyddiad isod:
“Mae’n braf clywed gan ranbarth arall sy’n cael yr un problemau, a gweithio gyda nhw, a chefnogi ein gilydd i wneud gwelliannau.”
“Cwrdd â gwahanol bobl a gwrando ar eu barn a’u dulliau a strategaethau sy’n gweithio.”
O ganlyniad i’r digwyddiad, mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn bwriadu cynnal digwyddiadau ymgysylltu rheolaidd a gaiff eu trefnu gyda darparwyr. Maen nhw hefyd yn bwriadu anfon holiadur am flaenoriaethau ar gyfer datblygu staff, oherwydd er bod hyfforddiant yn gyffredin ar draws pob pwnc a maes a drafodwyd yn ystod y digwyddiad, byddai’n ddefnyddiol asesu a oes angen cyfleoedd pellach ar gyfer hyfforddiant a datblygiad a beth yw’r blaenoriaethau ar gyfer darparwyr.
I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ewch i wefan Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd.