Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Bu i dros 200 o bobl sydd yn byw yn Ninbych a’r ardaloedd cyfagos rannu eu safbwyntiau gyda ni am ofal, cymuned a chymorth dementia da a’r gefnogaeth a chymorth y mae pobl sy’n byw gyda dementia ei angen. Dyma oedd ganddynt i’w ddweud wrthym.
Sut mae gofal dementia da yn edrych.
- Pobl gydag ansawdd bywyd gorau ac yn cael eu caru.
- Pobl yn cael eu trin gydag urddas, dealltwriaeth ac amynedd.
- Mae gofal yn canolbwyntio ar yrr unigolyn ac wedi seilio ar hyn sydd o bwys i’r unigolyn.
- Gall pobl wneud eu dewisiadau a phenderfyniadau eu hunain am eu gofal.
- Mae gofalwyr, teulu a ffrindiau yn cael eu cefnogi hefyd ac yn cael cyfleoedd i gael seibiant oddi wrth ofalu.
- Gofal a chymorth yn y lle iawn ac mor agos â phosib i adref.
- Cymorth a gofal da ar yr adeg iawn.
- Mynediad at wybodaeth a chyngor
- Gofal ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Digon o grwpiau a gweithgareddau i bobl ddewis.
- Pobl gyda’r cymorth ymarferol pan maent angen.
- Cymunedau’n gynhwysol ac yn deall dementia ac yn hygyrch.
- Pobl gyda mynediad at driniaethau, meddyginiaethau a therapi.
- Gofal sy’n fforddiadwy a bod gan bobl fynediad at gymorth ariannol a chyngor.
- Gwasanaethau yn cydweithio i ddarparu gofal integredig sydd yn bodloni anghenion pobl.
- Hefyd rydym angen ymchwil i wellhad dementia.
Beth ddylai fod ar gael i bobl sydd yn byw gyda dementia
Y math o ofal a ddisgrifir uchod gan gynnwys mynediad at ystod eang o weithgareddau ar sail beth sydd o bwys iddynt hwy; mynediad at ofal a chymorth; cefnogaeth ariannol a chymorth gyda chyllidebu a budd-daliadau; cludiant; cefnogaeth gydag anghenion iechyd ehangach; gwybodaeth a chyngor; cymorth i ofalwyr.
Beth mae’r gymuned yn ei olygu i chi.

Beth yw’r pethau a fydd yn helpu pobl fyw gyda dementia?
- Cael y gofal a chymorth maent eu hangen, gan gynnwys gofal a delir.
- Gwasanaeth iechyd hyblyg a chefnogol.
- Cymorth i ofalwyr.
- Cefnogaeth gymunedol a grwpiau lleol.
- Cludiant
- Creu cymunedau sy’n gyfeillgar i ddementia
- Gwasanaethau ac amgylcheddau hygyrch.
- Gwerthfawrogi gwaith gofal.
- Gwneud cymorth yn haws i gael mynediad.
- Cymorth ariannol a chyllid
- Technoleg a chymorthyddion eraill
- Ymchwil i driniaeth ac ymyraethau
- Llety
- Diogelu a Chyfrinachedd