Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Rhian Allen, Continwwm Gofal Cymdeithasol, Mawrth 2024
Cyflwyniad
Yn dilyn adolygiad yn edrych ar weithgareddau ymgysylltu gyda phobl â dementia a’u gofalwyr di-dâl yng Ngogledd Cymru cafodd grŵp bychan o gymunedau na chlywir ganddynt yn aml eu hadnabod. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar un o’r grwpiau a nodwyd, rheiny gydag amhariad synhwyraidd, yn arbennig y rheiny sy’n fyddar neu wedi colli clyw.
Methodoleg
Er mwyn deall yr anghenion a’r gofynion o gefnogi pobl gydag amhariad ar y clyw fe ddefnyddiwyd ymagwedd gyda dulliau cymysg. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil bwrdd gwaith yn ogystal ag ymgysylltu â phobl yn byw gydag amhariadau clyw.
Ymgysylltu
Clwb Byddar – Bore Coffi
Cafodd cyfarfod â’r Clwb Byddar yn eu Bore Coffi yn swyddfeydd COS ei drefnu gyda Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar 20 Chwefror 2024. Mae’r grŵp yn cwrdd bob pythefnos am fore coffi, ac yn ogystal â chyfathrebu maen nhw’n gweithio ar brosiectau a gyda gwesteion yn ymweld â’r grŵp.
Roedd wyth o aelodau’r grŵp yn bresennol yn y bore coffi, rhai yn fyddar, ac eraill yn drwm eu clyw neu’n gallu clywed.
Argymhellion
Argymhelliad 1: Cytuno i symud y blaenoriaethau uchod ymlaen sydd wedi cael eu nodi gan y Grŵp Byddar. Mae gwaith yn dechrau ar Flaenoriaethau 1 a 2 cyn gynted â phosib gan ei fod yn neges allweddol gan y grŵp. Camau gweithredu a gafodd eu hawgrymu oedd defnyddio’r adnoddau ac arbenigedd COS oedd yn cynnwys y Grŵp Byddar a oedd yn awyddus i gynorthwyo a gweithio gyda staff mewn codi eu hyder wrth weithio gyda chymunedau gyda nam ar eu clyw.
Argymhelliad 2: Datblygu ‘Pecyn Gwaith i Bawb’ yn seiliedig ar becyn gwaith BDA Yr Alban. Gweithio gyda gwasanaethau dementia a’r gymuned nam ar y clyw i ddatblygu pecyn gwaith y gall pawb ei ddefnyddio sy’n cynnwys y rheiny sy’n gweithio yn y sector a phobl yn byw gyda nam ar eu clyw a’u gofalwyr. Awgrymwyd fod y gwasanaethau Llwybr Dementia yn allweddol i’r elfen hon o’r cyfnod cyn diagnosis i ddiagnosis o ddementia.
Argymhelliad 3: Ymgymryd â gweithgareddau i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant mewn ffordd cyd-gynhyrchiol: Y bobl sy’n byw gydag amhariadau ar eu clyw a’u gofalwyr yw’r arbenigwyr yn ôl profiad. Yn ogystal mae’r rheiny sy’n gweithio mewn gwasanaethau gwahanol yn arbenigwyr yn eu maes. Dod â’r ddau ynghyd i gyd-gynhyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd yn sicrhau gwasanaethau effeithiol i’r rheiny sy’n darparu ac yn derbyn cefnogaeth a gofal.