Ydych chi’n chwilio am her newydd? Darganfyddwch fwy am yrfa fel Gweithiwr Gofal Plant Preswyl yng Ngogledd Cymru.

Contents
- Beth yw gofal preswyl?
- Bod yn Weithiwr Gofal Plant Preswyl
- Mathau o ofal preswyl
- Mae gofal preswyl yn cefnogi plant a phobl ifanc allai fod â’r anawsterau canlynol:
- Rhinweddau Gweithiwr Gofal Plant Preswyl
- Cymwysterau a hyfforddiant
- Cyfleoedd i ddatblygu
- Stori person ifanc
- Stori Sian
- Ffilmiau
- Gwybodaeth defnyddiol
Beth yw gofal preswyl?
Mae Cartrefi Gofal Plant Preswyl yn gofalu am blant a phobl ifanc o nifer o wahanol gefndiroedd. Maen nhw’n rhywle i blant a phobl ifanc fyw os na allan nhw fod gartref gyda’u teuluoedd eu hunain.
Nod cartrefi preswyl yw cynnig sefydlogrwydd mewn amgylchedd diogel sy’n eu cefnogi, yn gofalu amdanynt ac yn eu hannog.
Mae yna sawl math o gartrefi preswyl a rhesymau pam y gallai plant a phobl ifanc fod angen treulio amser mewn Cartref Gofal Plant Preswyl.
Bod yn Weithiwr Gofal Plant Preswyl
Byddwch yn darparu amgylchedd caredig, empathetig, tosturiol a hwyliog i blant a phobl ifanc sy’n eu helpu i ffynnu. Fel rhan o dîm, byddwch yn darparu gofal meithrin a chefnogol i blant a phobl ifanc, o ddydd i ddydd, gan eu helpu i gael mynediad at addysg a gwneud popeth sy’n gysylltiedig â bywyd bob dydd.
Byddwch chi’n eu helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac yn rhoi amgylchedd diogel a sefydlog iddynt. Mae hyn yn cynnwys dathlu eu cyflawniadau a gwneud gweithgareddau hwyliog, ond mae hefyd yn golygu bod yno yn ystod yr amseroedd anodd a chredu ynddynt, hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n gallu credu ynddynt eu hunain.
Bydd yna ddyddiau anodd, ond mae hon yn rôl werth chweil a hirdymor gyda digon o gyfleoedd dilyniant gyrfa. Mae’r rôl yn amrywio yn dibynnu ar ba gartref rydych chi’n gweithio ynddo ac anghenion y plant sy’n byw yno.
Mathau o ofal preswyl
- Gofal hirdymor – cefnogi plant sy’n methu byw yn eu cartref teuluol am gyfnod hirach.
- Gofal ailuno – cefnogi plant sydd wedi bod mewn gofal, a chynnig cefnogaeth a strwythur er mwyn helpu paratoi’r plentyn a’r teulu i ddychwelyd adref.
- Lleoliad brys – cynnig gofal tymor byr i blant sydd angen llety ar unwaith oherwydd argyfwng neu bryderon diogelu.
- Seibiant/arhosiad byr – cefnogi teuluoedd plant ag anableddau neu anghenion meddygol cymhleth drwy gynnig gofal preswyl dros dro.
- Plant ag anableddau – wedi’i addasu i blant ag anableddau dysgu neu gorfforol, gyda staff a chyfleusterau arbenigol.
- Gofal cam-i-lawr neu fyw’n lled annibynnol – Helpu pobl ifanc yn eu harddegau hwyr (16+) i ddatblygu i fod yn oedolion drwy ddysgu sgiliau bywyd a chynnig cefnogaeth wedi’i strwythuro iddyn nhw.
Mae gofal preswyl yn cefnogi plant a phobl ifanc allai fod â’r anawsterau canlynol:
- Anableddau corfforol
- Anableddau dysgu
- Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
- Heriau meddyliol ac emosiynol
- Anghenion cymhleth
- Niwroamrywiaeth
- Trawma
Rhinweddau Gweithiwr Gofal Plant Preswyl
- Sgiliau cyfathrebu cadarn – gallu cysylltu’n effeithiol gyda phlant, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol allanol.
- Mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc a datblygu perthnasoedd cadarnhaol.
- Agwedd gadarnhaol a chalonogol – helpu’r plant a’r bobl ifanc i fagu hyder a datblygu sgiliau bywyd hanfodol.
- Gallu cyd-weithio – gweithio’n dda fel rhan o dîm.
- Bod yn wydn – gallu addasu i sefyllfaoedd heriol a newidiol er mwyn bodloni anghenion y plant a’r bobl ifanc.
- Gallu dangos empathi a thosturi – cynnig cefnogaeth emosiynol a chreu amgylchedd diogel a gofalgar i blant
- Bod yn hyblyg – ar gael ar gyfer gwahanol batrymau gweithio/shifftiau ar sail rota.
- Gallu hybu urddas, moesau a pharch.
- Bod yn drefnus ac yn gyfrifol – sicrhau bod yn cadw at drefn ddyddiol, gan fodloni eu hanghenion ar yr un pryd.
Cymwysterau a hyfforddiant
Nid oes angen cymwysterau arnoch chi bob amser i gychwyn gyrfa fel Gweithiwr Gofal Plant Preswyl, yn dibynnu ar y swydd. Fodd bynnag, bydd angen i chi weithio tuag at ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio a chael profiad yn y swydd.
Effallai fe gewch chi hyfforddiant ar arferion sy’n ystyriol o drawma, cefnogi ymddygiad cadarnhaol, dulliau rhagweithiol a diogelu.
Bydd angen i chi hefyd fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fe wnaiff eich cyflogwr eich helpu chi gyda hyn.
Cyfleoedd i ddatblygu
Uwch Weithiwr Gofal Plant/Uwch Weithiwr Cymorth
Gall Gweithwyr Gofal Plant Preswyl fynd ymlaen i swyddi uwch lle maen nhw’n goruchwylio aelodau staff eraill ac yn cynnig cymorth mwy cymhleth.
Rheolwr Cynorthwyol / Dirprwy Reolwr
Gyda phrofiad a chymwysterau, gall Gweithwyr Gofal Plant Preswyl fynd ymlaen i fod yn Reolwyr Cynorthwyol/Dirprwy Reolwyr, yn helpu gyda rheolaeth gyffredinol y cartref.
Rheolwr Cofrestredig
Gall Gweithwyr Gofal Plant Preswyl profiadol a chymwys ddatblygu i fod yn Rheolwyr Cofrestredig, yn gyfrifol am weithrediad cyffredinol y cartref.



Stori person ifanc
“Rwy’n berson ifanc sydd mewn gofal ers tua wyth mlynedd.
Roeddwn i’n dawel ac yn swil iawn pan symudais i fy nghartref gofal cyntaf. Roedd popeth yn anghyfarwydd ac yn ormod i mi.
Fe wnaeth fy ngofalwr fy arwain i fy ystafell a fy rhoi i ar ben ffordd, ond er bod gen i fy mhethau i gyd, a bod fy ystafell yn braf, doeddwn i ddim yn teimlo’n gartrefol.
Roeddwn i’n teimlo’n bryderus ac yn swil, ac roedd yn well gen i aros yn fy ystafell a chadw i mi fy hun.
Dros amser, ceisiodd fy ngofalwr fy annog i fwyta prydau gyda’r plant eraill ac ymuno mewn gweithgareddau grŵp, ond roeddwn i eisiau bod ar fy mhen fy hun yn niogelwch fy ystafell. Bu’n meddwl am lawer o ffyrdd gwahanol i geisio fy annog i gymryd rhan ym mywyd y cartref, ac i fod yn fwy cymdeithasol gyda’r grŵp.
Roedd hi mor amyneddgar a chymerodd yr amser i ddod i fy adnabod i a fy niddordebau. Rhoddodd amser i mi ymgartrefu ac i deimlo’n gyfforddus yn fy nghartref newydd.
Roedd fy ngofalwr yn gwybod fy mod i’n mwynhau cerddoriaeth a bod gen i lawer o restrau chwarae. Awgrymodd un noson ein bod ni’n gadael fy ystafell i fynd am dro yn y car cyn swper, gan roi fy rhestrau chwarae ymlaen a chanu fy hoff ganeuon i gyd.
O wythnos i wythnos, bu’n magu fy hyder ac yn fy annog i dreulio mwy a mwy o amser allan o fy ystafell, a rhannu fy nghariad at gerddoriaeth gyda’r plant eraill. Gwrando ar gerddoriaeth oedden ni yn y car i ddechrau, ond wrth i amser fynd heibio ac wrth i mi ddod i’w hadnabod yn well, roeddwn i’n defnyddio’r amser i siarad ac i drafod fy mhryderon.
Bu’n gweithio’n galed i greu ymddiriedaeth rhwng y ddau ohonom ni, ac i fagu fy hyder.
Nawr, rwy’n treulio llawer o amser allan o fy ystafell, yn cyd-dynnu’n dda â’r bobl rwy’n byw gyda nhw ac mae bywyd yn llawer iawn gwell. Rwy’n teimlo’n hyderus ac yn ddiogel.”
Stori Sian
Nid yw Sian, Rheolwr Cartref Preswyl i Blant o Wrecsam, wedi dilyn y llwybr traddodiadol i’r sector gofal, a gadawodd yr ysgol gydag un cymhwyster TGAU. Fodd bynnag, roedd Sian yn gwybod ei bod yn teimlo’n angerddol dros wneud gwahaniaeth ym mywydau plant mewn gofal.
Dilynodd Sian ei hangerdd a dechrau fel Gweithiwr Cymorth Preswyl i Blant, gan weithio ei ffordd i fyny dros y tair degawd diwethaf i’w swydd reoli bresennol ar ôl ennill ei chymhwyster Lefel 5.
“Doeddwn i erioed yn dda iawn yn yr ysgol, a doeddwn i ddim yn mwynhau amgylchedd strwythuredig yr ystafell ddosbarth. Er hynny, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.
Dywedodd Sian: “Penderfynais wneud cais am swydd fel Swyddog Preswyl i gael profiad ymarferol, ac roeddwn yn gwybod ar unwaith mai hon oedd y swydd i mi. Dywedais wrth fy hun mai dyma roeddwn i eisiau ei wneud am weddill fy mywyd.
I ddechrau, doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i eisiau bod yn rheolwr, oherwydd roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n colli’r cysylltiad dyddiol â’r plant. Fodd bynnag, buan iawn y sylweddolais y gallwn ddechrau gwneud newidiadau cadarnhaol er gwell, ac roedd yn rhoi mwy o gyfle i mi gyflogi’r bobl orau i weithio gyda’n plant.
Roeddwn i’n gwybod pa mor bwysig oedd hyn, gan fy mod i wedi tyfu i fyny yng nghwmni’r plant ac wedi cael profiad uniongyrchol o’r gwerthoedd sydd eu hangen i fod yn ofalwr da.”
Dywedodd Sian: “Rwy’n falch o fy nghynnydd a’r hyn rwyf wedi’i gyflawni, ond dydy hyn ddim i’w gymharu â chyflawniadau’r bobl ifanc rydyn ni’n delio â nhw bob dydd. Rhan gorau o’r swydd yw gwylio’r plant yn cyflawni cerrig milltir, waeth pa mor fawr neu fach, a’u bod yn teimlo’n hapus, yn fodlon ac yn ddiogel bob dydd.”

Ffilmiau
Gwybodaeth defnyddiol
I gael rhagor o wybodaeth a chyfleoedd gwaith ym maes Gofal Plant Preswyl, ewch i: http://www.gofalwn.cymru gwefannau Awdurdodau Lleol neu Ddarparwyr Preswyl Preifat.