Mae mwy o bobl ag anableddau dysgu ar hyd a lled Gogledd Cymru yn dod o hyd i waith â thâl diolch i Wasanaeth Rhanbarthol Cymorth Cyflogaeth Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd.
Mae’r gwasanaeth ar gael yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ac mae’n cynnig cefnogaeth un-i-un wedi’i theilwra i unigolion sydd eisiau gweithio ond a allai fod yn wynebu rhwystrau ychwanegol. Mae’n gweithio’n agos gyda theuluoedd a gofalwyr i sicrhau bod pawb yn teimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi.
Mae pob unigolyn yn cael ei baru ag anogwr swyddi cymwys sy’n cynnig cefnogaeth gydag ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a chefnogaeth yn y swydd ei hun. Mae’r gefnogaeth yn parhau cyhyd ag y bo angen.
Yn ôl Kim Killow, Prif Swyddog Cynllunio a Datblygu, Tîm Rhanbarthol Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd:
“Mae’r gwasanaeth hwn yn fwy na dim ond ffordd o ddod o hyd i swydd, mae hefyd yn gyfle i bobl ag anableddau dysgu ystyried gwaith â thâl fel opsiwn realistig, am y tro cyntaf yn eu bywydau’n aml, ac i dderbyn y gefnogaeth benodol sydd ei hangen arnyn nhw i fagu hyder, datblygu sgiliau, a chymryd camau tuag at fwy o annibyniaeth.”
Roedd Colin, sydd yn 62 oed, wedi bod yn chwilio am waith â thâl ers dros 40 o flynyddoedd. Gyda chymorth y gwasanaeth, mae bellach yn gweithio fel cynorthwyydd dosbarthu ac mae wrth ei fodd.
“Mae fy swydd yn gwneud i mi deimlo’n well, mae’n deimlad da”, “Ewch amdani” yw neges Colin i eraill.
Dywedodd Paddy Taylor, Rheolwr gyda Grange Residential Care Ltd.:
“Mae cael swydd â thâl wedi bod yn nod i Colin ers blynyddoedd lawer. Rwy’n credu fod hyn wedi rhoi pwrpas newydd iddo a hwb i’w hunan-barch”
Mae cyflogwyr yn derbyn cefnogaeth recriwtio, paru swyddi, a chyngor ymarferol ar addasiadau rhesymol. Mae teuluoedd a gofalwyr yn derbyn canllawiau ar fudd-daliadau a chefnogaeth barhaus.
Mae’r gwasanaeth yn rhan o Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru, sy’n dod â chynghorau a gwasanaethau ynghyd i wella cyfleoedd a chanlyniadau i bobl ag anableddau dysgu.
Dod yn rhan o’r cynllun
- Oes gennych chi anabledd dysgu ac yn chwilio am waith?
- Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr sydd eisiau gwybod mwy?
- Ydych chi’n gyflogwr sydd am fod yn fwy cynhwysol?
Manylion Cyswllt
Kim Killow – Kim.Killow@flintshire.gov.uk
Sian Williams, sianangharadwilliams@gwynedd.llyw.cymru, Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth – Ynys Môn a Gwynedd
Craig Bond, craig.bond@gov.uk, Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth – Sir Ddinbych a Conwy
Sarah Jones, sarah.jones5@flintshire.gov.uk, Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth – Sir y Fflint a Wrecsam
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau a gyflwynir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’u partneriaid, sy’n gweithio i rymuso cymunedau a’u gwneud yn fwy cynhwysol.




