Annwyl Gydweithwyr,
Mae meini prawf Rhaglen Genedlaethol Imiwneiddio Ffliw 2019-20 wedi newid. Mae bellach yn cynnwys gweithwyr gofal cartref sy’n cael eu cyflogi gan ddarparwr gofal mewn cartref sydd wedi cofrestru â’r CIW. Bydd y gweithwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gofal i gleientiaid/cleifion bregus sydd mewn perygl cynyddol o ddod i gysylltiad â’r ffliw yn gallu cael brechiadau am ddim gan y GIG trwy fferyllfa gymuned.
Mae’n ofynnol i fferyllwyr gadarnhau cymhwysedd cyn darparu’r brechlyn i unigolion sy’n honni eu bod yn bodloni’r meini prawf newydd. Yn amlwg, os yw staff yn hysbys i staff y fferyllfa, neu os oes ganddynt fathodyn adnabod sydd â llun, sy’n eu nodi’n glir fel aelod o staff mewn cartref gofal i oedolion, mae hyn yn hawdd ei wneud.
Fodd bynnag, os nad hyn yw’r achos, rydym eisiau ei gwneud mor hawdd â phosib i’ch staff gael mynediad at y brechiad felly mae taleb ynghlwm y gallwch ei hargraffu / ei llungopïo a’i chwblhau â manylion aelodau’r staff unigol a’u cyfeirio at y fferyllfa agosaf sy’n cymryd rhan yn y broses (gweler http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk am y gwasanaethau a gynigir gan fferyllfeydd lleol).
I helpu i annog pobl i gael brechiad rhag y ffliw, rydym wedi bod yn annog fferyllfeydd cymuned i ddarparu clinigau ar gyfer eich staff yn eich swyddfeydd (yn ddibynnol ar os yw’r cyfleusterau addas yn gallu cael eu darparu). Os gallai hyn fod yn ddefnyddiol i chi a’ch staff, cysylltwch â’ch fferyllfa leol i weld os ydyn nhw’n gallu darparu hyn. Os nad ydych yn gallu trefnu hyn drwy fferyllfa leol, cysylltwch â’r unigolyn perthnasol isod, a fydd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â fferyllfa arall a fydd yn gallu ei ddarparu.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â’r tîm Rheoli Meddyginiaethau:
- Sir y Fflint/Wrecsam Simon Gill ar Simon.Gill@wales.nhs.uk
- Conwy/Sir Ddinbych: Rory Wilkinson ar Rory.Wilkinson@wales.nhs.uk
- Ynys Môn/Gwynedd: Gwyn Peris-Jones ar Gwyn.Peris-Jones@wales.nhs.uk