Mae’r prosiect hwn yn dod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru at ei gilydd i gydweithio â thimau iechyd a gofal lleol. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi cyflwyno adnodd gwybodaeth syml ond effeithiol a fydd yn ei gwneud yn haws i unigolion a theuluoedd gael gafael ar ganllawiau, adnoddau, a chymorth pan fyddan nhw eu hangen fwyaf.
Gallwch ddarllen yr erthygl a gyhoeddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yma.
