Mae’r Rhaglen Camu mewn i Waith yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gofal Cymdeithasol sy’n mynd i’r afael â’r galw am staff cynaliadwy, cymwys a phroffesiynol yn y Sector Gofal.
Nodir cyfranogwyr sydd â diddordeb mewn dechrau eu gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac sy’n teimlo’n angerddol amdano. Maen nhw’n cael gwybodaeth am gyfleoedd gyrfa, manylion hyfforddiant gorfodol a’r hyn a ddisgwylir ganddynt wrth ddechrau yn y gweithle.
Pan fydd y rhaglen orfodol wedi’i chwblhau a phan fydd y cyfranogwyr yn “barod am waith”, bydd lleoliadau gwaith di-dâl yn cael eu trefnu am o leiaf 16 awr yr wythnos, am 6 wythnos, i roi profiad ymarferol. Gall y profiad fod mewn Iechyd neu Ofal Cymdeithasol.
Bydd cefnogaeth ar gael i ddelio ag unrhyw faterion neu broblemau a allai godi ac fe gynhelir cyswllt drwy gydol y lleoliad, gan y Mentor Cyflogaeth Camu mewn i Waith.
Bydd cyfranogwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau i wneud cais am sawl swydd wahanol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol neu ymuno â recriwtio banc y GIG (ar ôl cwblhau eu lleoliad gwaith yn llwyddiannus).
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: cydweithredfagogleddcymru@sirddinbych.gov.uk