Mae’r ystadegau a’r data rydyn ni’n eu casglu yn rhoi rhan o ddarlun i ni ac maent yn canolbwyntio ar yr hyn rydyn ni’n gallu ei fesur. Ond er mwyn deall yn llawn beth sydd ei angen ar bobl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae angen i ni wrando ar y bobl sy’n cael eu heffeithio. Gall hyn ddod o ymchwil ansoddol, ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori. Gall hefyd helpu i wneud yn siŵr mai’r mesurau rydyn ni’n eu cyfrif yw’r rhai sy’n golygu fwyaf i bobl.
Rhannu straeon a phrofiadau pobl
Fframwaith adrodd straeon ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
Adrodd straeon yw’r ffordd y mae pobl yn gwneud synnwyr o’r byd ac yn cysylltu â’i gilydd. Mae fframwaith adrodd straeon Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnwys canllaw i ddefnyddio straeon ar gyfer llesiant, dysgu a chyhoeddusrwydd.
Rhwydwaith cyd-gynhyrchu i Gymru
Mae cyd-gynhyrchu yn ffordd o greu gwasanaethau cyhoeddus lle gall pobl sy’n darparu a phobl sy’n derbyn gwasanaethau rannu pŵer a chyfrifoldeb, a gweithio gyda’i gilydd mewn perthnasoedd cyfartal, cilyddol a gofalgar. Mae’n seiliedig ar y cryfderau sydd eisoes mewn cymunedau. Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arnynt, ac i gyfrannu at newid cymdeithasol.
Dulliau gwerthuso perthynol
Mapio Effeithiau ‘Ripple Effects Mapping’
Mae mapio effeithiau ‘Ripple Effects Mapping’ yn helpu i greu stori weledol o weithredoedd, a’r effeithiau ar bobl, gwasanaethau a sefydliadau.
Gallwch gael mynediad at hyfforddiant ar-lein am y dull cyfranogol ansoddol hwn a all ddal effeithiau ehangach (bwriadol ac anfwriadol) prosiect neu raglen. Darperir y cwrs gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR): Cydweithrediad Ymchwil Gymhwysol y Gorllewin.
Datblygu Ymarfer Cyfoethogi Tystiolaeth (DEEP)
Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu o ddatblygu polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol ac iechyd. Rydym yn defnyddio dulliau stori a deialog i’n helpu i gasglu, archwilio a defnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth. Mae’r llawlyfr DEEP yn rhoi gwybodaeth am y Newid Mwyaf Sylweddol (NMS), dull adrodd straeon a dysgu ar gyfer gwerthuso ar gyfer prosiectau neu raglenni sy’n canolbwyntio ar newid, wedi’i gynllunio i’w defnyddio mewn gwasanaethau.
Model ar gyfer rheoli gwasanaethau cyhoeddus yn seiliedig ar y syniad mai’r hyn sy’n gweithio mewn systemau cymhleth yw parhau i arbrofi a dysgu, gydag unigolion, mewn timau, mewn sefydliadau ac fel system gyfan.
Adnoddau i bobl sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru
Cyfeiriadur chwiliadwy o weithgareddau ymgysylltu yng Ngogledd Cymru. Y nod yw y gall sefydliadau yng Ngogledd Cymru weld yr hyn y mae pobl eisoes wedi’i ddweud wrthym am iechyd a gofal cymdeithasol fel y gallwn adeiladu ar y sgyrsiau hynny yn hytrach na’u hailadrodd.
Canllawiau a thempledi moeseg casglu straeon
Adnoddau ar gyfer prosiectau yng Ngogledd Cymru a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol i’w helpu i gasglu straeon ac astudiaethau achos.