Mae’r arolwg hwn bellach wedi cau. Gweld y canlyniadau.
Mae COVID-19 wedi achosi llawer o newidiadau i’n bywydau gwaith, ac mae’n bwysig fod y newidiadau hynny yn cael eu cofnodi. Drwy edrych arno a gwerthuso’r newidiadau sydd wedi digwydd er mwyn nodi ymarferion allweddol y gallem o bosib eu parhau neu eu haddasu yn y dyfodol.
Beth ydym ni’n ei wneud?
Rydym yn edrych ar newidiadau, gwersi a ddysgwyd neu bethau newydd sydd wedi digwydd oherwydd pandemig COVID-19, er mwyn defnyddio’r gwersi a ddysgwyd i wella gwasanaethau iechyd a gofal ar draws Gogledd Cymru.
Rydym yn casglu gwybodaeth am newidiadau sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r pandemig a hoffem wybod am y newidiadau sydd wedi digwydd yn eich gweithle / sefydliad chi.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech dreulio ychydig o amser yn llenwi’r arolwg hwn yn ystod y cyfnod prysur yma.
Mae sawl ffordd i gyfrannu:
- Cyflwyno manylion y datblygiadau arloesol a’r newidiadau a wnaed drwy ein harolwg ar-lein.
- Rhannu stori gyda ni am y newidiadau a wnaed, drwy drefnu galwad ffôn neu fideo, neu drwy rannu eich stori ar ein ffurflen ar-lein.
- Anfon e-bost atom gyda manylion y datblygiadau arloesol a wnaed, rydym yn ddigon bodlon i dderbyn gwybodaeth ar unrhyw fformat, astudiaethau achos yr ydych eisoes wedi’u hysgrifennu, er enghraifft.
Sgyrsiau Covid
Mae BIPBC hefyd yn cynnal arolwg i aelodau o’r cyhoedd am eu profiadau iechyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws, a byddwn yn dysgu ohono fel rhan o’n hadolygiad. Cwblhewch yr Arolwg Sgyrsiau Covid yma.
Ydych chi’n casglu gwersi a ddysgwyd?
Os ydych eisoes yn casglu gwersi a ddysgwyd neu fanylion newidiadau mewn ymateb i COVID-19 ac yr hoffech gysylltu â’n gwaith, cysylltwch â Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant. Rydym wedi casglu rhestr o arolygon rydym yn ymwybodol ohonynt hyd yn hyn yma: Adolygiadau ac arolygon Covid-19.
Manylion Cyswllt
Os hoffech gysylltu â ni yna cysylltwch ag un o’r tîm yn yr Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant:
Sarah Bartlett – Rheolwr yr Hwb Sarah.Bartlett@denbighshire.gov.uk
Natalie Pryor – Rheolwr Prosiect Natalie.Pryor@denbighshire.gov.uk
Beccy Roylance – Llyfrgellydd Arbenigol Rebecca.Roylance@denbighshire.gov.uk