Lawrlwythiadau
Mae canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar yn ymwneud â sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae hawliau plant yn cynnwys yr hawl i addysg a chwarae, i fod yn ddiogel, yn iach, i gael dweud eu dweud a pheidio â byw mewn tlodi. Gall cymorth ar yr adeg hon fod â buddion gydol oes ac mae’n lle craff i fuddsoddi os ydym am atal niwed yn y dyfodol. Mae amgylchedd polisi cymhleth yng Nghymru sy’n nodi’r hyn yr ydym am ei weld yn digwydd yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys ynghylch gofal plant, cymorth magu plant, addysg, lleferydd ac iaith, iechyd, a llesiant emosiynol.
Mae’r pecyn wedi cael ei lunio er mwyn hwyluso trafodaethau gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru ynglŷn â chydweithio i wella’r gefnogaeth sydd ar gael ar draws y rhanbarth. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mai 2024.
Negeseuon allweddol
- Dywedodd y plant ieuengaf wrth Gomisiynydd Plant Cymru eu bod am dreulio amser gyda theulu a ffrindiau, yn chwarae yn yr awyr agored, yn gwneud pethau sy’n eu cadw’n iach a chael eu cadw’n ddiogel gan yr oedolion o’u cwmpas. I wneud bywyd yn well roedden nhw eisiau gweld anghenion sylfaenol plant (bwyd a dŵr) yn cael eu diwallu, gwneud yn siŵr bod pobl yn garedig, cynyddu cyfleoedd chwarae a gwneud yn siŵr bod gan bawb dai.
- Dywedodd rhieni wrthym eu bod eisiau mwy o ddosbarthiadau cyn-geni, gofal plant mwy fforddiadwy gan gynnwys opsiynau cyfrwng Cymraeg, gwybodaeth fwy hygyrch, cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u llesiant a’u plant, gwell cyfathrebu rhwng gwasanaethau i helpu pobl i gael y cymorth cywir pan fydd ei angen arnynt, cefnogaeth i dadau, a chyfleoedd i’w plant chwarae.
- Yng Ngogledd Cymru mae Grŵp Llywio Trawsnewid ac Integreiddio y Blynyddoedd Cynnar sy’n cydweithio i dreialu ffyrdd newydd o weithio a rhannu dysgu i drawsnewid gwasanaethau a gwella canlyniadau i blant yn unol â fframwaith Nyth. Y blaenoriaethau yw lleferydd ac iaith, iechyd meddwl, strategaeth y gweithlu, gofal plant, cymorth magu plant a pherthnasoedd a rhannu pa mor bwysig yw blynyddoedd cynnar yn natblygiad plentyn gan ddefnyddio Oxford Brain Story (Prifysgol Rhydychen) a phwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol rhwng oedolion a phlant a phrofiadau plentyndod.
Lawrlwythiadau
Tudalennau cysylltiedig
Post blog am y sesiwn ‘canolbwyntio ar…’
Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant
Cysyllwtwch a ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432