Ydych chi’n chwilio am gyngor ar fod yn iach?
Mae gwefan Dewis Cymru yn fan gwybodaeth ynghylch sefydliadau a gwasanaethau lleol a all eich helpu.
Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am bynciau allweddol: Bod yn Iach; Bod yn Gymdeithasol; Bod Adre; Bod yn Ddiogel; Rheoli’ch Arian; Plant a Theuluoedd ac Edrych ar ôl Rhywun.
Dywedodd Bethan Jones Edwards , Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru: “Mae bod yn iach yn llawer mwy na’ch iechyd corfforol, mae bod yn iach hefyd yn cynnwys sut yr ydych yn teimlo amdanoch chi eich hun a’ch bywyd ar y cyfan.
“Fel arfer mae lles unigolyn yn well pan mae ganddynt rwydweithiau cymdeithaso cryf, tŷ addas, mae ganddo swydd a/neu mewn addysg (os yw’n dymuno) a’u bod yn iach yn gorfforol ac yn emosiynol.
“Mae gwefan Dewis Cymru yn siop un alwad wych i gael yr wybodaeth yr ydych ei hangen am iechyd a lles. Mae cyfeiriadur o’r holl wasanaethau a’r gweithgareddau sydd ar gael yn eich cymuned chi. Mae ynghylch rhoi’r unigolion ar y trywydd cywir a’u gwneud yn ymwybodol o’r holl gefnogaeth sydd eisoes ar gael.”
Gall unigolion ymweld â’r wefan i gofrestru a chael mynediad at wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn eu siroedd.
Gadael sylw