• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Lansiad Eisteddfod ar gyfer adnoddau newydd i gynorthwyo plant a theuluoedd yng Ngogledd Cymru

Lansiad Eisteddfod ar gyfer adnoddau newydd i gynorthwyo plant a theuluoedd yng Ngogledd Cymru

05/08/2025

Mae gwefan newydd sy’n cefnogi lles plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru wedi cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Mae llesgogledd.cymru yn cynnig cymorth hanfodol i hybu iechyd emosiynol a gwytnwch teuluoedd – ac mae’n cynnwys llawer o syniadau i helpu’r genhedlaeth nesaf i dyfu, datblygu a ffynnu. Wedi’i ysbrydoli gan y Pum Ffordd at Les, mae’r wefan newydd yn annog plant, pobl ifanc a’u rhieni neu ofalwyr i chwilio am ffyrdd y gallant gysylltu ag eraill, bod yn egnïol a chymryd sylw o’r byd o’u cwmpas. Mae hefyd yn gwahodd teuluoedd i ystyried sut y gallant barhau i ddysgu a rhoi eu hamser i gefnogi eu cymuned.

Mae adran bwrpasol y wefan Archwilio’r tu allan yn cynnwys map chwiliadwy o gyrchfannau, traethau, meysydd chwarae, coedwigoedd a theithiau cerdded – gan helpu teuluoedd i ddod o hyd i leoedd iach a hwyliog i blant a phobl ifanc chwarae yn yr awyr agored.

Fe’i lansiwyd yn swyddogol ar y Maes gan Fôn Roberts, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn, yn dilyn perfformiad arbennig ar thema lles gan y grŵp dawns cymunedol Dawns i Bawb.

Dywedodd: “Mae’n bleser mawr lansio ein gwefan newydd Iechyd Emosiynol, Lles a Gwytnwch Gogledd Cymru – adnodd bywiog a chynhwysol i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled Gogledd Cymru.

“Mae hyn yn ganlyniad gwaith cydweithredol drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant a chyda Swyddogion Chwarae o bob rhan o Ogledd Cymru, ac mae wedi cael ei siapio gan ein Fframwaith Iechyd Emosiynol, Lles a Gwytnwch a rennir. Yn hanfodol, mae’n seiliedig ar brofiadau a lleisiau plant, pobl ifanc, teuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol profiadol sy’n gweithio gyda nhw.

“Rwy’n siŵr y bydd llawer o rieni prysur wir yn croesawu rhai o’r gweithgareddau gwych sydd wedi’u cynnwys yn yr ardal Archwilio’r tu allan – yn enwedig cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar yr adnoddau naturiol a chwarae gwych sydd gennym ar draws Gogledd Cymru yn ystod gwyliau’r haf!

“Ond rydym yn gobeithio y gall pawb dderbyn y gwahoddiad hwn i fyfyrio, archwilio a darganfod cyfleoedd newydd i hybu iechyd emosiynol, lles a gwytnwch ein cenhedlaeth nesaf yma yng Ngogledd Cymru – p’un a ydynt yn unigolyn ifanc sy’n delio â newid, rhiant neu ofalwr sy’n cefnogi plentyn, neu’n weithiwr proffesiynol sy’n arwain eraill.”

Mae’r wefan newydd wedi’i datblygu gan bartneriaid o bob rhan o Ogledd Cymru, gan gynnwys ysgolion ac addysg, iechyd a gwasanaethau plant.

Ffeiliwyd dan: Blog Tagged With: Ansawdd Bywyd, arddegau, baban, babanod, babanod newydd-anedig, babi, babis, bachgen, bachgendod, bechgyn, boddhad bywyd, cyn arddegau, emosiynol, glasoed, hapus, hapusrwydd, ieuanc, ieuenctid, Lles - Lles, meddyliol, merch, merched, newydd-anedig, oed ysgol, person ifanc, plant, plant bach, plant ysgol, plentyn, plentyn bach, plentyn ysgol, pobl ifanc

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.