Gofal Cymdeithasol Cymru – Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella.
Ym mis Mawrth 2025, lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru yr Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella.
Pwrpas yr adnodd yw cefnogi datblygiad sgiliau ymchwil, arloesi a gwella ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol.
Mae’r adnodd yn cynnwys dolenni i gyfleoedd defnyddiol, fel hyfforddiant neu adnoddau, mewn iaith sy’n hawdd ei deall.
Gwybodaeth am yr adnodd
Mae’r adnodd hwn yn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd sy’n cefngogi defnyddio ymchwil a thystiolaeth, gwerthuso eich gwaith a chyflwyno dulliau newydd.
Gall helpu:
- datblygu eich set sgiliau
- cyflwyno cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hyn i’ch tîm
- creu diwylliant sy’n herio’r ffordd bresennol o weithio.
Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn
Mae pedair thema allweddol yn sail i’r adnodd hwn. Maent wedi nodi dull ymarferol ar gyfer pob thema gyda gwybodaeth berthnasol am hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau hunan-arweiniedig.
Cliciwch bob thema i ddarganfod mwy:
- Defnyddio tystiolaeth: cael cymorth i ddefnyddio tystiolaeth yn eich ymarfer ac wrth wneud penderfyniadau.
- Gwella ac arloesi: deall sut i roi hyn ar waith mewn ymarfer bob dydd, datblygu gwasanaethau a newid eich sefydliad.
- Gwerthuso eich gwaith: mesur eich cyfraniad yn effeithiol a dangos y gwahaniaeth y mae eich gwaith yn ei wneud.
- Llunio diwylliant: arwain a chyfrannu at ddiwylliant sy’n hyrwyddo cymryd risgiau cadarnhaol a chanlyniadau gwell i’r bobl rydyn ni’n cefnogi a gofalu amdanyn nhw.
Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella
