Mae’r Rhaglen Trawsnewid bellach wedi’i disodli gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol.
Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar bobl sy’n derbyn cymorth iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru. Nid yw cleifion, trigolion na thenantiaid wedi gallu gweld ffrindiau a theulu pan maent ei angen fwyaf. Mae’r pandemig wedi ymyrryd ein harferion ac wedi effeithio ar les meddyliol a chadernid emosiynol pobl.
Trwy gefnogaeth Rhaglen Drawsnewid y Gwasanaethau Cymunedol, ‘Cymunedau Digidol’, mae pobl sydd wedi cael eu derbyn i’r ysbyty yn ystod y pandemig, a’r rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal a llety â chymorth, wedi cael iPads er mwyn eu galluogi i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau wrth ynysu.
Mae menter ‘Cymunedau Digidol’ Gogledd Cymru wedi llogi dros 350 iPads gyda 4G i ysbytai, cartrefi gofal a rhai eiddo llety â chymorth ar draws y rhanbarth, sydd wedi cael eu llwytho â negeseuon digidol ac apiau defnyddiol eraill, sy’n ysbrydoli pobl i fynd ar-lein.
Mae trigolion a staff ar draws Gogledd Cymru bellach yn mwynhau defnyddio technoleg ddigidol, ac wedi newid bywydau nifer.
Cadw mewn cysylltiad
Gydag anogaeth ac arweiniad gan staff, mae trigolion cartrefi gofal a chleifion mewn ysbytai acíwt a chymunedol bellach yn defnyddio iPads i wneud galwadau fideo yn ddyddiol er mwyn cysylltu â’u teuluoedd.
“… mae hyn wedi profi’n gyfle gwych i drigolion allu cadw mewn cysylltiad gyda’u perthnasau, nid yw un o’n trigolion wedi gweld ei frawd sy’n byw yn [gwlad] am bron i 18 mlynedd. Er eu bod yn siarad bob mis ar y ffôn, dyma’r tro cyntaf iddynt weld ei gilydd, roedd yn brofiad hyfryd iddynt, ac roedd yn wych eu bod yn gallu gweld ei gilydd wyneb yn wyneb, ac i’n holl drigolion gael y cyfle i weld eu hanwyliaid wyneb yn wyneb a rhoi sicrwydd iddynt eu bod yn ddiogel ac yn iach”
Mae gan y galwadau fideo fuddion emosiynol gan gynnwys lles meddyliol.
Pan dderbyniais alwad yn cynnig iPad er mwyn galluogi i’r trigolion gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn ystod y cyfnod clo presennol, roeddwn wrth fy modd… Mae cael iPad yn dod a chymaint o hapusrwydd i’r trigolion. Mae eu hwynebau yn goleuo pan maent yn gweld aelodau’r teulu yn ymddangos ar y galwadau fideo. Mae cael iPad i gysylltu gyda’r byd tu allan yn ystod cyfnod mor anodd wedi cael budd emosiynol sylweddol i’n trigolion”
Mae Cydlynwyr Gweithgareddau wedi gallu plethu’r iPads o fewn eu sesiynau gweithgareddau.
“Rydym hefyd wedi gallu lawrlwytho rhai gweithgareddau ar yr iPad i’n trigolion fwynhau.”
O fewn ein hysbytai, mae’r iPads wedi bod yn hollbwysig i alluogi cleifion i gadw mewn cysylltiad gyda’u teuluoedd a ffrindiau, ac wedi chwarae rôl gadarnhaol ar gyfer cleifion a staff.
Mae 93% yn teimlo bod cael iPads ar y wardiau yn yr ysbyty wedi cael effaith gadarnhaol ar gleifion
Mae 82% yn teimlo bod yr iPads wedi cael effaith gadarnhaol ar amser staff
iPads yn y Gymuned
Mae iPads hefyd ar gael i bobl sy’n byw yn y gymuned, gyda chyllid ar gael i brynu mwy o iPads. Mae’n ddyddiau cynnar ar gyfer cam nesaf y prosiect. Bydd y dull a ddefnyddir yn canolbwyntio ar yr unigolyn, a bydd staff yn cael eu hannog i drafod hobïau a diddordebau pobl gyda nhw, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon i weld pa apiau i’w huwchlwytho. Y gobaith yw y bydd hyn yn cynorthwyo i ddatblygu sgiliau a hyder digidol pobl.
Apwyntiadau Fideo
Ar y cyd â menter ‘Attend Anywhere’ Llywodraeth Cymru, mae staff ar draws Cartrefi Gofal hefyd yn defnyddio iPads i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar-lein gyda meddygon lleol. Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo fel rhan o’r fenter ‘Cymunedau Digidol’ i roi benthyg iPads i bobl yn y gymuned sy’n cael eu eithrio yn ddigidol, er mwyn cynnal apwyntiadau meddyg ar-lein.
Rydym yn cydweithio gyda Chartrefi Conwy ar brosiect peilot er mwyn cefnogi’r defnydd o apwyntiadau meddyg ar-lein ymysg eu tenantiaid.
Cymunedau Digidol yn y Wasg
Cliciwch ar y dolenni isod i weld rhai o’n cyhoeddiadau i’r wasg am gynllun benthyg iPads Cymunedau Digidol.