Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru yw’r
cynllun ar gyfer pob oed i wella iechyd meddwl a lles y bobl ar draws Gogledd
Cymru, sydd wedi’i
gyd-gynhyrchu gyda phobl sydd wedi cael problemau iechyd meddwl.
Nod y strategaeth eang ac uchelgeisiol yw gwella iechyd meddwl plant ac oedolion, sicrhau cydraddoldeb parch gydag iechyd corfforol a symud canolbwynt gofal i atal ac ymyrraeth gynnar.
Er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y gefnogaeth gynnar maent ei angen yn y gymuned, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, awdurdodau lleol ac elusennau iechyd meddwl yn cydweithio i gyflwyno gwasanaethau newydd drwy’r ymgyrch MI FEDRAF.