• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Rhaglen drawsnewid / Ymyrraeth gynnar integredig a chefnogaeth ddwys i blant a phobl ifanc / THAS: Taflen ar gyfer gweithwyr proffesiynol

THAS: Taflen ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Beth yw Therapi Aml-Systemig (THAS)

Mae Therapi Aml-Systemig (THAS) yn ymyrraeth ddwys gymunedol i deuluoedd sy’n targedu’r amrywiol achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc a fyddai, heb ymyrraeth, mewn risg o gael eu rhoi yng ngofal yr Awdurdod Lleol, mewn risg o warchodaeth neu Ofal Diogel.

Mae THAS yn mabwysiadu dull economaidd­gymdeithasol o ddeall ymddygiad problematig mewn pobl ifanc. Mae gan yr unigolyn rwydwaith o systemau rhyng-gysylltiedig o’u hamgylch sy’n cynnwys yr unigolyn ifanc eu hunain, eu teulu, yn ogystal â’u grwp cyfoed, yr ysgol a’r gymdogaeth ehangach.

Mewn THAS,  gwelir rhieni a darparwyr gofal fel y prif ysgogwr newid yn yr unigolyn ifanc. Felly prif nod THAS yw grymuso’r teulu i gymryd cyfrifoldeb am wneud a chynnal newidiadau cadarnhaol yn ymddygiad yr unigolyn ifanc.

Prif nodau thas

  • Cadw teuluoedd gyda’i gilydd pan fo’r unigolyn ifanc mewn perygl o fynd i ofal, gwarchodaeth neu leoliad diogel.
  • I’r unigolyn ifanc gymryd rhan mewn addysg, Gweithwyr Proffesiynol hyfforddiant neu gyflogaeth.
  • Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r cyhuddiadau yn erbyn yr unigolyn ifanc.

(Mwy o wybodaeth ac ymchwil ar gael yn  www.mstuk.org) 

I bwy mae thas? Meini prawf cynhwysol

  • Pobl ifanc mewn peryg o gael lleoliad (gofal neu warchodaeth) oherwydd eu hymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cam-drin sylweddau.
  • Pobl ifanc sy’n rhan o’r System Cyfiawnder Ieuenctid (System Troseddu Ieuenctid).
  • Pobl ifanc rhwng 11 a 17.

Meini prawf gwaharddol

  • Pobl ifanc sy’n byw yn annibynnol.
  • Unigolyn ifanc sy’n dangos ymddygiad hunan-laddol, llofruddiol neu seicotig.
  • Troseddau rhyw heb ymddygiad gwrthgymdeithasol arall.
  • Pobl ifanc sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASA) ble asesir ei fod yn gymedrol i ddwys.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:- Newmstcymru@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01978-295540

Lawrlwythiadau

THAS: Taflen ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital