Arolwg Staff
Mae’r gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn symud yn gynyddol ar-lein, ac mae galw ar ein staff i ddefnyddio mwy a mwy o dechnoleg digidol fel rhan o’u gwaith bob dydd.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn awyddus i ddeall y gofynion o safbwynt mynediad at dechnoleg digidol ymysg pobl sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys pobl sy’n gweithio i ddarparwyr annibynnol gofal cartref, preswyl a nyrsio, a byw â chymorth.
Mae’r wybodaeth hon yn bwysig i ni, gan y bydd o gymorth i siapio’r cymorth rydym yn ei roi ar draws y sector, a’r cynlluniau sydd angen eu gweithredu er mwyn sicrhau fod ein gweithlu’n teimlo’n hapus ac yn fodlon i ddefnyddio technoleg ddigidol yn eu gwaith.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd yr amser i ateb yr arolwg byr hwn er mwyn ein cynorthwyo i deall yn well i ba raddau mae technoleg ddigidol yn cael ei ddefnyddio, y rhwystrau a wynebir, a’r lefel a’r math o gymorth sydd ei angen o ran symud ymlaen, o safbwynt rhywun sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae holiadur tebyg wedi ei ddatblygu, ac yn cael ei rannu gyda rheolwyr.
Nodwch os gwelwch yn dda fod yr wybodaeth byddwch yn ei darparu yn yr holiadur hwn yn gwbl gyfrinachol. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â phartneriaid Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru. Bydd unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn neu Ddarparwr yn cael ei wneud yn anhysbys.
Diolch i chi am roi o’ch amser i lenwi’r holiadur hwn.
Os hoffech dderbyn copiau papur, ffoniwch 01824 712536 / 01824 712432