Beth ddylem ni ei flaenoriaethu i ddatblygu ymchwil, arloesi a gwelliant i iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru, yn eich barn chi?
Gallai’r strategaeth gynnwys ffyrdd o:
- Ddatblygu blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd
- Cynnwys y cyhoedd mewn gwaith ymchwil a datblygu
- Defnyddio data sy’n bodoli eisoes ac sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd
- Datblygu gweithlu ymchwil medrus, gan gynnwys cyfleoedd i ymarferwyr wneud prosiectau ymchwil
- Rhannu tystiolaeth a datblygu ymarfer sy’n defnyddio tystiolaeth
Am fwy o wybodaeth am flaenoriaethau cenedlaethol o ran ymchwil iechyd a gofal, ewch i:
Strategaeth Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Gymru
Mae’r strategaeth hon yn cael ei datblygu gan Hwb Ymchwil, Arloesi a Gwelliant Gogledd Cymru, a gafodd ei sefydlu yn rhan o Strategaeth Cymru Iachach i wella’r ffordd roedd gwasanaethau’n cydweithio ac i ddarparu gwybodaeth ar gyfer modelau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, newydd.