• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Syd’s Place – Stori Teresa

Syd’s Place – Stori Teresa

20/05/2021

“Cyn Covid, mynychais SYDS Place a chefais lawer o gefnogaeth oddi yno.

Roeddwn hefyd yn rhan o lawer o sgyrsiau addysgol ac yn teithio o amgylch y wlad, fe wnes gadw’r dementia draw.

Yn ystod y cyfnod clo, caeodd SYDS Place a chynhaliwyd pob cyfarfod trwy Zoom, rwyf wedi teimlo fy dementia yn cymryd drosodd: mae’n ymddangos fy mod yn colli fy hyder yr oeddwn wedi’i ennill.

Fy achubiaeth oedd caffael rhandir.

Fy mhryder wrth i’r clo godi yw mynd i’r archfarchnad – rwyf eisioes wedi bod ac wedi cael pwl o banig.   Rhaid immi hefyd fynd ar fws gan nad ydw i’n gyrru, hefyd nid ydw i eisiau mynd allan i’r byd eto.”

Cofion,

Teresa Davies

Syd’s Place

Gwasanaeth dydd a chanolfan adnoddau arbenigol ar gyfer pobl iau â dementia yw Syd’s Place yng Nghanolfan Atti yn y Fflint.  Agorwyd y ganolfan yn 2008 a hon oedd y ganolfan gyntaf o’i bath yng Nghymru.

Mae’r Hen Fragdy ar agor i unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o ddementia cynnar, ac mae’n cynorthwyo pobl i gael rhaglen ystyrlon ac amrywiol o weithgareddau a theithiau allan, a chyfleoedd i anelu at hyrwyddo a chynnal annibyniaeth a sgiliau.  Mae pobl hefyd yn elwa o gyswllt cymdeithasol a chymorth emosiynol drwy fod gyda phobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg iddyn nhw.

Rheolir y gwasanaeth gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint o dan y Gwasanaeth i Bobl Iau â Dementia.  Mae tîm gofal hyfforddedig a phrofiadol yn gweithio yn yr Hen Fragdy, gyda chefnogaeth gweithiwr cymdeithasol i bobl ifanc â dementia.  Yr oriau agor yw 10am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Nodau’r Gwasanaeth:
  • Cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth a’u sgiliau cymdeithasol a hamdden drwy gynllunio ac ymgysylltu ag ystod o weithgareddau dewisedig.
  • Cynorthwyo pobl i gynnal a datblygu cysylltiadau cymdeithasol a gostwng ymdeimlad o unigrwydd ac arwahanrwydd.
  • Cynorthwyo gofalwyr y bobl sy’n defnyddio’r Hen Fragdy i gael seibiant o’u rôl fel gofalwr.
  • Cynorthwyo pobl i gyflawni eu nodau a sicrhau fod anghenion pobl yn cael eu diwallu drwy hwyluso mynediad at wasanaethau cymunedol ac adnoddau yn ôl yr angen.
Sut i gael mynediad at y gwasanaeth:

Gall unrhyw un atgyfeirio cleifion i’r gwasanaeth, o’r gwasanaethau iechyd i wasanaethau cymunedol eraill neu’r unigolion eu hunain drwy hunan-atgyfeiriad.  Ar ôl cael asesiad gan weithiwr cymdeithasol, caiff yr unigolyn, os yw’n gymwys, ei gynorthwyo i archwilio cyfleoedd i fynychu’r grŵp.  Cynhelir adolygiad 6 wythnos ar ôl i’r unigolyn ddechrau mynychu er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn iawn.

A oes rhaid talu?

Codir tâl am wasanaeth yr Hen Fragdy.  Defnyddir polisi taliadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol i asesu taliadau’r unigolyn.  Codir tâl bach am brydau bwyd.

Sut i gysylltu:

Un Pwynt Mynediad:  03000 858 858   spoa@flintshire.gov.uk

Canolfan Ddydd Syd’s Place, Prince of Wales Avenue, Fflint CH6 5JU  Ffôn: 01352 732982

Ffeiliwyd dan: Blog, Casgliad o syniadau da, CSD dementia Tagged With: alzheimers, annibynnol, Ansawdd Bywyd, ar eich pen eich hun, Ar-lein, boddhad bywyd, cadw ar wahân, cwarantin, cyfathrebiad, cyfathrebu, cymdeithasol yn gymdeithasol, cymdeithasu, cyswllt, cysylltedd, cysylltiad, Digidol, electroneg, electronig, emosiynol, glasoed, hapus, hapusrwydd, hunan-gynhaliaeth, hunan-gynhaliol, ieuanc, ieuenctid, ifanc, llanc, Lles, meddyliol, mewn cwarantin, mewn cysylltiad, natur gymdeithasol, oed ysgol, oedolion ifanc, oedolyn ifanc, person ifanc, person yn ei arddegau, plant, plentyn, rhithiol, rhydd, rhyddid, rhyngweithio, siarad, unig, unigedd, ymreolaeth, yn cadw ar wahân, yn cysylltu, yn rhithiol, yn rhyngweithio, yn siarad, yn ynysu, ynysiad, ynysig, Ynysu

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Canolbwynt ar anabledd a salwch

YN EISIAU: Cynrychiolwyr Gofalwyr

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

  • Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol
  • Cynhwysiant Digidol
  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital