Lead Organisation: Cyngor Sir Ynys Môn
Mae cynllun peilot arloesol sydd wedi’i deilwra ar gyfer disgyblion blwyddyn 9 ar Ynys Môn wedi’i ddatblygu i helpu i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mewn partneriaeth â Bwrdd Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Gofalwn Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn oedd yn arwain ar y cynllun peilot, y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Cynhaliwyd digwyddiadau rhyngweithiol yn cynnwys sgyrsiau, gweithgareddau a phrofiadau ymarferol ysbrydoledig ar draws holl ysgolion uwchradd Ynys Môn rhwng Hydref a Rhagfyr 2024, gyda oddeutu 700 o ddisgyblion yn cymryd rhan.
Rhoddodd y digwyddiadau gyfle i ddisgyblion ddysgu am wahanol swyddi a llwybrau gyrfa gyda sefydliadau partner wrth law i siarad am y llu o gyfleoedd ar gael yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae Gyrfaoedd ac Addysg sy’n gysylltiedig â Gwaith yn rhan annatod o’r Cwricwlwm i Gymru. Cynhaliwyd y gweithdai Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mhob un o’n hysgolion uwchradd gan roi cipolwg rhagorol i ddysgwyr ar Ynys Môn o’r sector. Llwyddodd cannoedd o bobl ifanc i wella eu dealltwriaeth o’r gwaith pwysig hwn trwy ystod eang o weithgareddau rhyngweithiol a hwyluswyd gan bobl sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae’r gweithdai yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu effeithiol, gan ddarparu profiadau gwerthfawr i bobl ifanc a hefyd eu gwneud yn ymwybodol o gyfleoedd gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.”
Aaron Evans, Uwch Reolwr Ynys Môn CC, (Sector Uwchradd)
“Mae’n galonogol gweld bod y bartneriaeth sgiliau ranbarthol yn cefnogi’r sector economi Sylfaen. Mae gofal cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth iechyd yn allweddol i gryfhau’r sector yn ei gyfanrwydd ac croesawir unrhyw gyfle sy’n codi’r proffil, fel y peilot hwn.”
Dywedodd Jenny Williams, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy a Chadeirydd Bwrdd y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru
Ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa o fewn y sector, rhoddodd y rhaglen fewnwelediadau a phrofiadau ymarferol i ddisgyblion i ategu gwybodaeth ddamcaniaethol ac yn diystyru mythau.

“Fe wnes i fwynhau’r gweithdy heddiw’n fawr iawn, a chael pleser mawr o weld ein disgyblion yn cymryd rhan lawn mewn rhai gweithgareddau llawn dychymyg. Roedd y bwrlwm o gwmpas y neuadd yn anhygoel, wrth i ddisgyblion symud o gwmpas mewn modd amserol, i orsafoedd lle cawsant fewnwelediad i rolau a chyfrifoldebau amrywiol o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.“
Dywedodd Claire Andrew, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Caergybi

Ewch i wefan WeCare Am fwy o wybodaeth.