
Aeth Tîm Cefnogi Busnes Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i ddigwyddiad ‘Tuag at system gofal cymunedol integredig i Gymru’ a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru i arddangos rhai o’r prosiectau sydd wedi’u hariannu gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Roedd cynrychiolwyr o’r 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn bresennol, yn cynnwys aelodau bwrdd a’r gweithlu cefnogi. Cafodd y rhanbarthau gyfle i rwydweithio mewn ardal arddangos a darparu gwybodaeth am rai o’u prosiectau ar eu stondinau.
Yn ystod y digwyddiad cawsom gyfle i amlygu llwyddiant tri phrosiect rhanbarthol:
- Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru
- Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru
- iCAN

Cawsom hefyd gyfle i rannu ein dysg a’n profiad o ddefnyddio dull gwerthuso’r Ripple Effects Mapping i gasglu straeon pobl a gwneud yn siŵr bod eu lleisiau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Gweithdy adrodd straeon Gogledd Cymru a Chwm Taf Morgannwg
Ar ben hyn oll darparwyd gweithdy adrodd straeon gyda chydweithwyr o Gwm Taf Morgannwg, lle’r oedd cyfranogwyr yn gallu rhannu beth mae adrodd straeon yn ei olygu iddyn nhw. Dyma beth ddywedon nhw:
Beth mae adrodd stori’n ei olygu i ni
Cyfathrebu effaith, cyfleu emosiwn,
Creu cysylltiadau, dim cwestiynau heb eu hateb,
Dyna beth mae adrodd straeon yn ei olygu i ni.
Gorffennol, presennol, dyfodol, bywyd a adroddir mewn camau,
Gall straeon ddal newidiadau yn greadigol,
Dyna beth mae adrodd straeon yn ei olygu i ni.
Mewnwelediad, dyfnder, realiti rhywun arall,
Profiadau cymhleth a gyfathrebir gydag eglurder,
Dyna beth mae adrodd straeon yn ei olygu i ni.
Mae straeon dirgel, hudol, ffuglennol yn mynd â ni ar daith,
Rydyn ni’n gwrando ac yn dysgu, mae ennill persbectif yn deilwng,
Dyna beth mae adrodd straeon yn ei olygu i ni.
Roedd y gweithdy yn gyfle i gyfranogwyr archwilio ‘eiliadau hud’ drwy rannu tair stori wahanol. Mae rhannu straeon ac ‘eiliadau hud’ yn ein helpu ni i ddysgu a datblygu’n fwy effeithiol, gan arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer unigolion. Dim ond hyn a hyn o wybodaeth a gawn gan ddata. Dyna pam bod arnom ni angen y ddau – i ddysgu drwy straeon pobl a, gyda nhw, i edrych ar ffordd i greu gwasanaethau hyd yn oed gwell yn y dyfodol.
Cafodd y cyfranogwyr eu hysbrydoli gan y sgyrsiau am y tair stori i nodi beth yn eu barn nhw oedd elfennau mwyaf hudol y straeon a pham eu bod nhw’n cael yr effaith fwyaf. Os hoffech chi ddarllen y straeon hyn, gallwch eu gweld isod:
Dyma rai o’r prif themâu a amlygwyd yn ystod y sgyrsiau a gafwyd ar y tair ‘eiliad hud’ a manteision rhannu straeon:
Weithiau mae’r pethau lleiaf yn cael yr effaith fwyaf.
Mae cymryd amser gydag unigolion i wrando ar eu straeon yn werthfawr.
Gall deall bywyd trwy lygaid rhywun arall roi grym i newid.
Mae parchu ac addasu i realiti rhywun arall yn bwysig.
Mae’r hyn a ddysgwn o straeon yn gallu adfer synnwyr o bwrpas.
Beth wnaethom ni ei ddysgu?
Dydi gofyn i bobl am eu profiadau ddim yn ddigon da bellach. Mae techneg cyfathrebu fel proses yn golygu bod yn rhaid i wybodaeth fynd o’r defnyddwyr gwasanaeth i’r rheiny sy’n gwneud y penderfyniadau, ac yn ôl i lawr eto. Mae hyn yn golygu gwrando’n weithredol yn ogystal ag yn effeithiol, gan ymgysylltu â phob aelod o’n partneriaeth a chynnal sgwrs ddwyffordd sy’n ysbrydoli newid cadarnhaol yn ogystal â sbarduno a mynnu newid.
Rhannodd ein cydweithwyr o Gwm Taf Morgannwg eu profiadau o gynnal ‘Hacathon’ gyda phobl â phrofiad bywyd a gweithwyr proffesiynol er mwyn edrych ar sut y gallan nhw gyd-gynhyrchu’n fwy effeithiol.
Mae Hacathon yn ddigwyddiad arloesol lle mae defnyddwyr a darparwyr gwasanaeth yn edrych ar astudiaethau achos, materion a heriau sydd wedi codi o fewn gwaith rhanbarthol ac yn meddwl am ffyrdd newydd a chreadigol i’w goresgyn.
Mae cynhyrchwyr creadigol sy’n gweithio ym maes cerddoriaeth, drama, theatr a ffilm er enghraifft, yn gweithio gyda chyfranogwyr i edrych ar heriau o safbwyntiau gwahanol.
Os hoffech chi ddysgu mwy am gydgynhyrchu digwyddiad Hacathon, ewch i wefan Cwm Taf Morgannwg.
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddementia ac adrodd straeon, ewch i dudalen ein Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.
Myfyrio ar ôl y gweithdy
Ar ddiwedd y gweithdy gofynnwyd i’r cyfranogwyr ysgrifennu myfyrdod un gair ar effaith y gweithdy a’r straeon a rannwyd arnyn nhw. Dyma’r geiriau a gafwyd:
- Grymuso
- Emosiynol
- Pwerus
- Cofiadwy
- Cynhwysol
- Deall
- Ni
- Hardd
- Cysylltiad
- Cefnogol
Am fwy o wybodaeth am y gweithdy adrodd straeon cysylltwch â: NWRICH@denbighshire.gov.uk