
Mae dod at ein gilydd yn ddechrau, mae aros gyda’n gilydd yn gynnydd, ac mae gweithio gyda’n gilydd yn lwyddiant.
Ymwelwch â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam o 2-9 Awst 2025, stondin 215 -216.
Rydyn ni eisiau clywed gennych chi a rhoi’r platfform i chi rannu eich straeon am iechyd a gofal cymdeithasol. Mae straeon yn deimladwy ac yn bwerus ac maent yn sicrhau y gallwn weithredu trwy ddysgu a datblygu.
Trwy ddod at ein gilydd, trwy feddwl a siarad fel un, gallwn sicrhau bod ein gwaith yn cael ei adnabod gan bobl Gogledd Cymru, gyda’ch cyfraniad chi, gallwn gyflawni’r canlyniadau sy’n bwysicaf i chi.
Dyma flas o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl trwy gydol yr wythnos!
| Dydd | Ffocws | Gweithgaredd |
| 02 08 2025 Dydd Sadwrn | Mwy na Geiriau Digidol | Gemau a chwisiau Lansio Ap Niwro Clustffonau Realiti Rhithiol Apiau digidol 1-3yh Cymunedau Digidol Cymru |
| 03 08 2025 Dydd Sul | Gwerth Cymdeithasol Gofalwyr di-dâl | Lliwio cerrig Gofalwyr yn rhannu eu straeon a’u profiadau |
| 04 08 2025 Dydd Llun | Anableddau Dysgu | Dewch i gwrdd ag Ifan a dysgu am ei daith wrth chwilio am waith â thâl Ap Ymwybyddiaeth Ofalgar |
| 05 08 2025 Dydd Mawrth | Plant Niwroamrywiaeth Iechyd Emosiynol Lles a Gwydnwch | Gemau a gweithgareddau Perfformiad gan Dawns i Bawb Iechyd a Lles Emosiynol |
| 06 08 2025 Dydd Mercher | Dementia Gwasanaethau i Oedolion | Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru Atal Codymau – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 12-1yh Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Rhian Bowen Davies |
| 07 08 2025 Dydd Iau a 08 08 2025 Dydd Gwener | Gofalwn Gogledd Cymru a Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru | Lansio Llyfryn Gwybodaeth Gofal Plant Preswyl Hyrwyddo swyddi gwag Iechyd a Gofal Cymdeithasol Jenga a Boccia |
| 09 08 2025 Dydd Sadwrn | Trosolwg o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru | Trosolwg cyffredinol o waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac adlewyrchu ar yr wythnos |
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno!
