• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhaglen 5 mlynedd gan Lywodraeth Cymru o Ebrill 2022 i Fawrth 2027 er mwyn helpu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal.

Grwpiau â Blaenoriaeth

Y nod yw i ddatblygu modelau newydd o ofal i gefnogi grwpiau â blaenoriaeth. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei wneud i wella gwasanaethau ar gyfer y grwpiau hyn dilynwch y dolenni isod.

  • Pobl gydag anableddau dysgu
  • Gofalwyr di-dâl
  • Pobl sy’n byw gyda dementia
  • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
  • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl

Modelau gofal

Y modelau gofal sy’n cael eu datblygu yw:

Gofal wedi’i leoli yn y gymuned – atal a chydlynu cymunedol

Gwasanaethau cymunedol sy’n helpu i amddiffyn preswylwyr rhag problemau iechyd neu les tymor hirach, gan gynnwys grwpiau cyfeillio, canolbwynt cymunedol, cefnogaeth i ofalwyr a mynediad at wasanaethau lles.

Gofal wedi’i leoli yn y gymuned – gofal cymhleth yn nes at adref

Cymorth i wella adferiad yn dilyn cyfnod o afiechyd ac i fod yn fwy annibynnol yn yr hirdymor. Mae hyn yn cynnwys cymorth yn y cartref gan dimau arbenigol sy’n gweithio yn y gymuned ac adsefydlu cymunedol.

Hyrwyddo iechyd a lles emosiynol da:

Creu a gwella gwasanaethau ar gyfer oedolion a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth o ran iechyd a lles emosiynol, er enghraifft gwasanaethau iCAN ar hyd a lled Gogledd Cymru a gweithgareddau cymunedol i helpu i wella lles meddyliol.

Cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, a chymorth therapiwtig i blant â phrofiad o ofal

Fe fydd partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn gweithio gyda theuluoedd i’w helpu i aros gyda’i gilydd yn ddiogel ac atal yr angen i blant ddod yn blant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys prosiectau ymyrraeth gynnar; prosiectau i feithrin gwytnwch teuluoedd fel cynadleddau grwpiau teulu, LIFT (y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol) a MST (Therapi Amlsystemig) a chefnogaeth breswyl ddwys, timau cefnogi a chymorth arbenigol i blant gydag anghenion cymhleth.

Adref o’r ysbyty

Fe fydd rhai pobl angen triniaeth mewn amgylchedd ysbyty bob amser, ac felly bydd hyn yn helpu pobl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty a gwella adref yn ddiogel a chyflym. Mae hefyd yn sicrhau fod y rhai sydd angen gofal acíwt yn gallu cael mynediad i hynny yn hawdd.

Datrysiadau wedi eu lleoli mewn llety

Darparu amgylcheddau byw cynnes, diogel a chefnogol. Mae hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth i blant ac oedolion gydag anableddau ac anghenion cymhleth a gwasanaeth dilyniant i gefnogi oedolion ifanc sydd ag anableddau corfforol a/neu dysgu i gynyddu eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain. 

Lawrlwythiadau

Rhaglen Cronfa Integreiddio Rhanbarthol 2022 23 PDF

Ffrydiau ariannu blaenorol

Mae’r gronfa yn disodli’r Gronfa Trawsnewid a’r Gronfa Gofal Integredig. I gael rhagor o wybodaeth.

  • Edrychwch ar dudalen gwe y Gronfa Trawsnewid sydd wedi ei harchifo.
  • Edrychwch ar dudalen gwe y Gronfa Gofal Integredig sydd wedi ei harchifo.

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Canolbwynt ar anabledd a salwch

YN EISIAU: Cynrychiolwyr Gofalwyr

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

  • Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol
  • Cynhwysiant Digidol
  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital