Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru
Mae Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru’n adrodd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob yn ail fis i roi trosolwg o amrediad o feysydd gweithlu strategol. O fewn y 12 mis diwethaf, bu estyniad ar yr aelodaeth, gan adlewyrchu amrediad eang o sefydliadau a chyfoethogi’r trafodaethau, sicrhau ein bod â’r bobl gywir yn gweithio yn y Bwrdd i symud y Rhaglen Gweithlu Genedlaethol yn ei blaen.
Mae’r blaenoriaethau trosfwaol ar gyfer Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru yn cynnwys (gellir gweld manylion pellach yn ein rhaglen isod):
- Sefydlogi’r gweithlu
- Dysgu a datblygiad
- Gwybodaeth a chynllunio’r gweithlu
Strategaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru 2024-2026
Mae Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru yn falch o gyhoeddi Strategaeth derfynol Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru 2024-2026. Cytunwyd ar y tair prif flaenoriaeth (a nodwyd uchod) o weithdy rhanddeiliaid a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2023 lle gwahoddwyd partneriaid newydd i fod yn bresennol, a chafwyd cyfle i drafod beth oedd y partneriaid yn meddwl y dylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer y rhanbarth wrth symud ymlaen. Roedd datblygu’r Strategaeth yn brosiect uchelgeisiol a oedd yn ymdrin â’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol ar draws Gogledd Cymru.
Cafodd y Strategaeth ei chymeradwyo gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2024.
Lawrlwythiadau
Mwy o wybodaeth
- Gofalwn Cymru
- Gofalwn Cymru Swyddi Gwag
- Gofal Cymdeithasol Cymru: Newyddion, digwyddiadau ac ymgynghoriadau
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016: Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth
- Deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru: Hyb Gwybodaeth a Dysgu
Cysylltwch â ni
Cadeirydd: Jenny Williams
Llinos Howatson
llinos.howatson@sirddinbych.gov.uk