Ym mis Chwefror 2025, ymwelodd Tîm Cyfalaf Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gogledd Cymru â phedwar safle ar draws Ynys Môn lle mae gwaith adeiladu ar y gweill i ddatblygu ac adeiladu asedau cymunedol sy’n cefnogi’r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r datblygiadau hyn yn cefnogi amcanion strategol y Cyngor i “greu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu.”
Canolfan Glanhwfa
Mae Canolfan Glanhwfa yn cael ei datblygu a’i rhedeg fel Canolbwynt Cymunedol Integredig yn Llangefni. Fe’i sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau cymorth i bobl hŷn yn y gymuned, yn ogystal â chanolfan i diwtora pobl ifanc mewn cerddoriaeth a diwylliant. Mae’r ganolfan yn cael ei datblygu o fewn Capel Moreia. Adeiladwyd y capel yn 1898 ac mae’n lleoliad canolog a hanesyddol yn nhref Llangefni. Bydd gwasanaethau crefyddol yn dal i gael eu cynnal ar y Sul, gan ganiatáu i’r adeilad gadw ei bwrpas gwreiddiol.


Y weledigaeth ar gyfer Canolfan Glanhwfa yw datblygu’r capel yn lleoliad amlasiantaeth sy’n canolbwyntio ar unigolion yn y gymuned. Bydd yn darparu man diogel i gynnal gweithgareddau ar gyfer pobl hŷn a’u teuluoedd, canolfan ddementia, ystafelloedd cyfarfod a gofod perfformio. Bydd swyddfa asesu cof hefyd ar y safle, sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Strategaeth Ddementia Gogledd Cymru.
Mae cam cyntaf y gwaith addasu eisoes wedi’i gwblhau gan gynnwys adnewyddu’r festri i ddarparu cegin, toiledau a thair swyddfa. Bu hyn yn bosibl o ganlyniad i gyllid grant a nifer o ffrydiau ariannu eraill gan gynnwys cyfanswm o £430,000 o arian cyfatebol gan y ganolfan.



Mae gwaith cam dau a cham tri bellach ar y gweill gan gynnwys gwaith ar y llawr isaf, gosod lifft a gwaith adnewyddu pellach ar y capel ei hun. Mae hyn er mwyn sicrhau fod Canolfan Glanhwfa yn adeilad cwbl hygyrch i fod yn gartref parhaol i Ganolfan Ddementia Ynys Môn a swyddogion o Wasanaeth Asesu Cof Gogledd Cymru.
Mae cam nesaf y cynllun, gyda chost amcangyfrifedig o £1.1 miliwn, wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Sefydliad Pantyfedwen ac enwadau capeli.
| Ffynhonnell ariannu | Swm |
| Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol | £777,000 |
| Trawsnewid Trefi | £210,000 |
| Enwadau capeli | £25,000 |
| Y Gronfa Ffyniant Gyffredin | £13,249 |
| Sefydliad Pantyfedwen | £12,000 |



Mae’r datblygiad hwn yn dod â nifer o fuddion i’r gymuned leol gan gynnwys:
- Lleihau unigrwydd trwy gyflwyno cyfleoedd i gymdeithasu.
- Cefnogi unigolion sy’n byw â dementia a gofalwyr di-dâl
- Darparu cefnogaeth a chyfleoedd cymdeithasol i rieni a phlant
- Hyfforddiant a sesiynau ymwybyddiaeth i gefnogi diogelwch cymunedol
Yn rhyfeddol, mae’r ganolfan wedi aros yn weithredol 6 diwrnod yr wythnos ac wedi parhau i gynnal gweithgareddau ers i’r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Awst 2024. Trwy flaenoriaethu hygyrchedd a diogelwch, mae staff wedi sicrhau fod pobl yn gallu parhau i fynychu’r canolbwynt. Mae’r ymrwymiad hwn wedi bod yn hanfodol er mwyn cynnal ymgysylltiad a chefnogaeth y gymuned yn ystod cyfnod o newid, rhywbeth y mae’r staff yn eithriadol o falch ohono.
Dywedodd Marc Hughes, Rheolwr RIF, ’Mae’r prosiect hwn yn ein galluogi i ddarparu cartref pwrpasol i Ganolfan Ddementia Ynys Môn sy’n darparu gwasanaethau cymunedol i bobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr yn lleol.
Ychwanegodd Seiriol Edwards, y Rheolwr Strategaeth Pobl Hŷn, “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a fydd, heb os, yn darparu buddion iechyd a lles cadarnhaol i drigolion Ynys Môn. Mae’r ffaith bod cynifer o sefydliadau bellach yn gweithio yng Nglanhwfa yn eu galluogi i weithio mewn partneriaethau agosach ac yn creu cyfleoedd i gyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu”.
Mae Canolfan Glanhwfa hefyd wedi cael cyllid gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol a Chymdeithas Elusennol Ynys Môn i gefnogi gweithrediad y ganolfan a sefydlu cyfleuster integredig pwrpasol a fydd yn dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o dan un to.
Cafodd Tîm Cyfalaf y BPRh eu syfrdanu gan y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma. Unwaith y bydd wedi’i chwblhau, bydd y ganolfan yn lle gwirioneddol gartrefol ac yn ased cymunedol hanfodol i bobl leol. Mae buddsoddiad cyfalaf wedi caniatáu i’r capel aros yn rhan ganolog o’r gymuned ac ynghyd â buddsoddiad gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol bydd staff yn parhau i gefnogi pobl a meithrin amgylchedd lle gallant deimlo’n ddiogel, yn werthfawr ac yn annibynnol.
Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis Medi 2025 ac mae staff y ganolfan yn edrych ymlaen at gynnal a darparu gwasanaethau cynaliadwy i drigolion lleol am flynyddoedd i ddod.
Pen–y–Coed
Ymwelodd y tîm hefyd â thŷ sy’n cael ei adnewyddu ar hyn o bryd yng nghanol de Ynys Môn. Caffaelwyd Pen-y-Coed ym mis Chwefror 2024, sef byngalo ar wahân gyda phedair ystafell wely sy’n cael ei ddatblygu i fod yn llety byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu.


Ariannwyd y cynllun gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn.
Mae’r garej ddwbl wedi’i hail-ddylunio i wneud lle i ystafell wely ychwanegol ategol, sy’n golygu y bydd gan yr eiddo le ar gyfer pedwar tenant a dau aelod o staff.
Mae disgwyl i’r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau ym mis Mai 2025.
Haulfryn
Y trydydd eiddo i’r tîm ymweld ag o oedd Haulfryn, sy’n cael ei ddatblygu i fod yn ganolfan seibiant dydd i blant ag anableddau dysgu.
Roedd y cynllun yn cynnwys prynu ac ailwampio’r byngalo gan gynnwys cegin ac ystafell fwyta newydd yn un, ystafell synhwyraidd, ystafelloedd gweithgareddau ac ystafell newid cwbl hygyrch. Yn ogystal, mae uned breswyl seibiant newydd gyda dwy ystafell wely hefyd yn cael ei hadeiladu yng nghefn yr eiddo, gyda gwaith tir ar y gweill.


Bydd lle yn y ganolfan seibiant dydd ar gyfer ugain o blant ar unwaith, yn ystod y gwyliau ac ar benwythnosau, yn ogystal ag yn ystod yr wythnos. Mae teimlad newydd a chartrefol i’r eiddo a bydd yn barod i groesawu plant ym mis Awst 2025.
Mae’r cynllun sy’n werth £655,000 wedi’i ariannu trwy Gronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru.

Cyfleuster Gofal Ychwanegol
Y safle olaf yr ymwelodd y tîm ag o oedd darn o dir ym Mhorthaethwy lle mae’r awdurdod lleol ar hyn o bryd yn gwneud cais am gyllid i ddatblygu Cyfleuster Gofal Ychwanegol gwerth amcangyfrifedig o £30 miliwn ar gyfer pobl sy’n dymuno byw’n annibynnol, a chyfleuster gofal preswyl a fydd yn cefnogi darpariaeth ddementia arbenigol.
Mae’r cynllun yn cynnig datblygu cyfleuster gofal ychwanegol 45 ystafell gwely a chartref gofal preswyl 28 ystafell wely yn ogystal â lle ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymunedol, gan ddod â gwasanaethau’n agosach at y gymuned.
Mae Achos Amlinellol Strategol ac Achos Busnes Amlinellol y cynllun wedi sicrhau £1.1 miliwn o Gronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Achos Busnes Llawn, a bwriedir ei gyflwyno yn yr haf.
Os bydd y cynllun yn llwyddiannus wrth geisio cyllid ar gyfer y gwaith adeiladu, bydd y cynllun yn cael ei ariannu o Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Chronfa Tai â Gofal yn ogystal â rhaglen cyllid cyfalaf Ynys Môn ei hun.
Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ar gyfer de Ynys Môn a fydd yn cefnogi oedolion a theuluoedd bregus, gan eu cadw’n ddiogel, yn iach, ac mor annibynnol â phosibl.
Mae Cyngor Ynys Môn yn gobeithio y bydd y gwaith o ddatblygu’r tir yn dechrau ym mis Ebrill 2026.

