Bwrdd Comisiynu Gogledd Cymru
Mae’r bwrdd integredig hwn yn adrodd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn cyfarfod bob dau fis ac maent yn gyfrifol am faterion comisiynu strategol sydd angen mynd i’r afael â nhw’n rhanbarthol. Mae gan y bwrdd sawl gweithgor ac yn comisiynu grwpiau tasg a gorffen fel bo’r angen.
Yr amcan yn eang yw ychwanegu gwerth at drefniadau comisiynu lleol sy’n awyddus i sicrhau bod darpariaeth gofal a chefnogaeth yng Ngogledd Cymru yn gynaliadwy, ac yn darparu ‘beth sy’n bwysig’ i unigolion gyda safonau da o ansawdd a diogelwch.
Blaenoriaethau’r bwrdd
Mae prif brosiectau’r Bwrdd yn mynd rhagddynt ar draws Gogledd Cymru:
- Sicrhau marchnadoedd gofal cynaliadwy
- Cefnogi datblygiadau lleol mewn comisiynu sy’n seiliedig ar ganlyniadau
- Cefnogi trefniadau comisiynu sy’n hyrwyddo gwelliannau mewn gwerth cymdeithasol
- Cefnogi rhaglenni trawsnewid ‘Cymru Iachach’ ar draws gogledd Cymru gyda chomisiynu a chontractio integredig ar y cyd:
- Gwasanaethau di-dor i bobl ag Anableddau Dysgu
- Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
- Gwasanaethau cymunedol/ nes at adref
- Plant a Phobl Ifanc
Am y diweddariadau diweddaraf gwelwch ein blog.
Tudalennau cysylltiedig
Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru
Gwasanaeth o ansawdd: darparu’r hyn sy’n bwysig