Mae digidol, data a thechnoleg yn ddulliau o gynorthwyo’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gydweithio er mwyn hybu iechyd a lles pobl o bob oed yng ngogledd Cymru. Maent ymysg yr elfennau allweddol sy’n galluogi’r modelau gofal sy’n cael eu datblygu drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.
Y rhain yw blaenoriaethau Bwrdd Digidol, Data a Thechnoleg Gogledd Cymru:
- Cael y pethau sylfaenol yn iawn: sicrhau fod gan bobl sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol â mynediad llyfn a diogel at systemau a gwybodaeth ar unrhyw adeg, unrhyw le.
- Dyfeisgarwch: ystyried pob agwedd ar ddyfeisgarwch digidol a gwneud y gorau o’r cyllid.
- Ymgynnwys digidol: ystyried pob agwedd ar ddatblygu sgiliau digidol a helpu pobl i fynd ar-lein.
- Data ac integreiddio cofnodion iechyd a gofal: cysylltu gwybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn darparu gwell gofal.
Mae’r bwrdd wedi mabwysiadu Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, sy’n pennu’r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau digidol newydd neu ddiwygiedig y mae sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru’n eu hariannu.
Mae’r bwrdd yn gweithio â rhaglenni cenedlaethol ac yn darparu cefnogaeth a chydlyniad i gynlluniau rhanbarthol a lleol sy’n cyfrannu at gyflawni’r blaenoriaethau hyn.
Os ydych chi’n gweithio ar brosiect digidol, data neu dechnoleg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn gydweithio.
Am ragor o wybodaeth, cofrestrwch i gael newyddlen yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol.
Adnoddau
- Uchelgais Gogledd Cymru
- Cymunedau Digidol Cymru
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Ecosystem Iechyd Digidol Cymru
- Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru
- Technoleg Iechyd Cymru
- TEC Cymru (Technology-enabled Care)
Cysylltwch â ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
E-bost: nwrich@denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01824 712432