Ar ran Grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru, rydym ni’n falch iawn o rannu Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu (2024 i 2029) gyda chi. Wrth wraidd y strategaeth hon mae llais pobl sydd ag anableddau dysgu a’r newid mawr sydd eiangen yn eu barn nhw i alluogi mwy o bobl i gael mynediad cyfartal at waith cyflogedig.
Nod y strategaeth yw rhoi grym i bobl sydd ag anableddau dysgu drwy hwyluso eu mynediad at waith cyflogedig wrth barchu eu dewisiadau a meithrin cymunedau cynhwysol. Mae’n tanlinellu’r potensial am dwf personol a gwell iechyd a lles pan mae unigolion sydd ag anableddau dysgu mewn gwaith ac yn ennill cyflog, a allai yn ei dro leihau eu hangen am wasanaethau wedi’u hariannu gan yr awdurdod lleol.
Y brif ffordd y bydd y strategaeth yn cael ei rhoi ar waith ar draws Gogledd Cymru yw drwy integreiddio Model Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru o fewn gwasanaethau gwaith cymdeithasol anableddau dysgu ar y cyd â gwasanaethau cyflogaeth â chymorth arbenigol yn dilyn safonau model Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth BASE UK.
Rydym yn falch o gadarnhau bod Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd wedi cael grant tair blynedd gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Gogledd Cymru i gyflwyno’r model ar draws y rhanbarth. Mae’r model yn cael ei gyhoeddi ar 1 Gorffennaf 2024 a bydd yn cael ei werthuso’n annibynnol gan Brifysgol Ystrad Clud.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Kim Killow ar kim.killow@flintshire.gov.uk
Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu (2024 i 2029)