Gweld ein holl waith ‘Canolbwyntio ar…’
Ym mis Mai, edrychodd cyfarfod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant ar y blynyddoedd cynnar, y cyfnod cyn geni i saith oed. Yn ogystal ag aelodau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant, gwahoddwyd aelodau o’r Grŵp Budd-ddeiliad Plant a’r Bartneriaeth Ranbarthol Blynyddoedd Cynnar i ymuno â’r gweithdy.
Sut y gallwn gydweithio’n well i roi’r dechrau gorau i fywyd i bob plentyn?
Fe ddechreuom drwy ofyn – pe bai pob plentyn yn cael y dechrau gorau i fywyd, sut fyddai llwyddiant yn edrych? Yr ateb oedd:
- plant sy’n hapus, yn iach, yn ffynnu ac yn ddiogel
- teuluoedd sydd â’r wybodaeth a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen gan weithlu blynyddoedd cynnar hyderus a medrus
- sefydliadau sy’n cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth yn dda
- yn yr hirdymor, bydd pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial ac yn tyfu’n oedolion ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl da.
Ein cryfderau yw ein gweithlu hynod fedrus, partneriaethau sefydledig a gwaith rhanbarthol. Mae gennym fodelau llwyddiannus megis Dechrau’n Deg, Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd a Chanolfannau Teuluoedd ac arfer da a gwerthusiadau o’r rhaglen Llwybr blynyddoedd cynnar (arloesi a thrawsnewid). Ynghyd â diwylliant o allu addasu, myfyrio ac ymrwymo i’r blynyddoedd cynnar.
Mae’r heriau y mae angen i ni eu goresgyn yn ymwneud â chyllid ac yn cynnwys anawsterau o ran cyllid grant tymor byr, llwybrau cymhleth, anghenion sy’n fwy a mwy cymhleth, capasiti ein gweithlu a rhannu gwybodaeth.
Mae ei hasedau’n cynnwys llais plant, rhieni a’r gweithlu blynyddoedd cynnar. Mae gennym fynediad at rai cronfeydd cyllid ac ymyriadau sefydledig y gallwn adeiladu arnynt.
Gan gofio hyn i gyd, trafodwyd y camau yr hoffem eu gweld yn digwydd.
- Siarter blynyddoedd cynnar gyda blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ac iaith a rennir. Nodi ein dehongliad o ganllawiau cenedlaethol a sut y gallwn fodloni anghenion plant yn lleol yn y ffordd orau. Yn cynnwys cynllun ar y cyd o sut y byddwn yn defnyddio cyllid.
- Strategaeth gweithlu’r blynyddoedd cynnar, yn gysylltiedig â Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru. Edrych ar gynllunio’r gweithlu, cymwysterau, sgiliau, hyfforddiant, cadw a datblygiad proffesiynol.
- Cynllun cyfathrebu i rannu ein gweledigaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar, negeseuon allweddol a manylion y gefnogaeth sydd ar gael.
- Gwella trefniadau rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella sefydlogrwydd a chysondeb y ffrydiau ariannu.
Ar y diwedd, dywedodd y rhai oedd yn bresennol eu bod wedi mwynhau’r sesiwn a bod llawer o frwdfrydedd dros y gwaith hwn. Ond y peth pwysicaf yw bod arnom angen sicrhau bod newid yn digwydd.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: childrensrpb@denbighshire.gov.uk