North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Rhaglen drawsnewid
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
      • Gwasanaethau Cymunedol
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Datganiad hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd

Defnyddio’r wefan hon

Cynhelir y wefan hon gan Gydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • chwyddo’r sgrin hyd at 300% gwaith yn fwy heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn hollol hygyrch:

  • nid oes modd addasu uchder y llinellau na’r bylchau rhwng y testun
  • nid yw’r mwyafrif o’r dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes modd neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin

Beth i’w wneud os nad oes modd i chi gael mynediad at rannau o’r wefan

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille:

  • anfonwch e-bost at northwalescollaborative@denbighshire.gov.uk
  • ffoniwch 01824 712432

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:

  • anfonwch e-bost at northwalescollaborative@denbighshire.gov.uk
  • ffoniwch 01824 712432

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Problemau gyda thechnoleg

Dim dewis i ‘neidio i’r prif gynnwys’ ar unrhyw dudalen.

Nid yw’n bosibl i ddefnyddwyr addas bylchau’r testun neu uchder llinellau.

Rydym wedi asesu cost mynd i’r afael â’r materion hynny, a chredwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn cynnal asesiad arall pan rydym yn gwneud ailddatblygiad mawr i’r wefan eto.

Materion gyda dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn sydd ddim yn bodloni safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai na fyddant wedi’u marcio fel eu bod yn hygyrch i’r sawl sy’n darllen o sgrin.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni drwsio dogfennau PDF neu unrhyw ddogfen arall a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, rydym yn cynllunio i fynd i’r afael â fersiynau cryno o’n hadroddiadau a’n strategaethau, gan gynnwys asesiad poblogaeth, cynllunio rhanbarthol, strategaeth y gweithlu, rhaglen waith y bwrdd comisiynu, a datganiad sefyllfa marchnad cartrefi gofal.

Mae’n rhaid cyhoeddi cynllun buddsoddi refeniw’r ICF yn y fformat gwreiddiol, er efallai nad yw’n bodloni safonau hygyrchedd.

Efallai na fydd gwahanol fersiynau o’n hadroddiadau a’n strategaethau yn bodloni gofynion hygyrchedd, megis dogfennau hawdd i’w darllen, ond bydd fersiwn o bob adroddiad neu strategaeth sydd yn bodloni safonau hygyrchedd.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd, ac eithrio bod fersiwn html hygyrch amgen yn cael ei ddarparu.

Problemau gyda lluniau, fideos a sain

Nid oes is-deitlau ar gyfer fideos asesu poblogaeth (gwasanaethau gofal a chefnogaeth i bobl yng Ngogledd Cymru) ond rydym wedi ychwanegu trawsgrifiad o’r fideos fel PDF sy’n bodloni safonau hygyrchedd i’r un dudalen.

Sut wnaethon ni brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan ei phrofi ddiwethaf ym mis Awst 2019. Cynhaliwyd y prawf gan ddefnyddio estyniad total11y ar Chrome.

Fe wnaethon ni brofi ein prif wefan ar y platfform, i’w weld ar https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Hyfforddiant ar greu dogfennau hygyrch i aelodau o’r tîm sy’n ysgrifennu ar gyfer y wefan.

Diweddaru thema’r wefan i gynnwys swyddogaethau i wella hygyrchedd.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 11 Gorffennaf 2019. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 23 Gorffennaf 2021.

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Dros 55? SBARC yn edrych am gyfranogwyr.

Gogledd Cymru gyda’n Gilydd – Mai 2022

DIAGNOSIS O DDEMENTIA

  • Diagnosis o Dementia?
  • Cefnogi Gofalwyr Cymraeg eu Hiaith
  • Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia YMA!

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2022 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital