• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Anabledd dysgu / Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad

Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad

07/05/2024

Gweld ein holl waith ‘Canolbwyntio ar…’

Roedd cyfarfod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant mis Chwefror yn canolbwyntio ar sut i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol.

Mae niwroddatblygiad yn golygu datblygiad yr ymennydd ac mae ymennydd pawb yn datblygu’n wahanol.  Gall hyn gynnwys awtistiaeth ac ADHD yn ogystal â dyslecsia, dyspracsia, syndrom Tourette a thiciau. Term arall sy’n cael ei ddefnyddio’n aml yw ‘niwroamrywiaeth’ sef syniad sy’n cydnabod bod ymennydd pawb yn datblygu’n wahanol ac nad oes unrhyw  ffordd ”gywir” o feddwl, dysgu ac ymddwyn, ac nad yw gwahaniaethau’n bethau drwg neu negyddol.

I ddechrau fe wnaethom wylio fideo o deulu lleol yn sôn am eu profiad o aros am asesiad niwroddatblygiadol. Fe wnaethom hefyd rannu pecyn o wybodaeth yn cynnwys mwy o storïau gan deuluoedd am fyw gyda niwroamrywiaeth.

Archwiliodd y bwrdd syniadau ar sut y gellid cydweithio’n well er mwyn rhoi cefnogaeth. Gall gymryd cryn dipyn o amser i gael asesiad i weld os oes gan blentyn neu unigolyn ifanc gyflwr niwroddatblygiadol. Un ffordd yr hoffem wella’r broses hon yw drwy gefnogi plant a theuluoedd yn seiliedig ar yr anghenion sydd ganddynt yn hytrach nag ar eu diagnosis. Yr enw yr ydym wedi’i roi ar yr ymdriniaeth hon yw  ‘Y Drws Cywir’ – lle bynnag yr ewch i chwilio am gefnogaeth – yr ysgol, gwasanaeth cymunedol, gwasanaeth cymdeithasol, neu wasanaeth iechyd, byddwch yn cael cymorth. Mae hefyd yn rhan o’n hegwyddorion craidd fel y maent wedi’u nodi yn y fframwaith NYTH.

Dyma rai o’r themâu a ddaeth allan o’r drafodaeth

  • Pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol
  • Bod â ‘llais y teulu’ wrth wraidd dyluniad a darpariaeth gwasanaethau.
  • Yr angen am systemau data effeithiol sy’n galluogi rhannu data ac yn rhoi darlun manwl i lywio’r broses o wneud penderfyniadau.
  • Heriau diwylliannol sy’n tarfu ar gydweithio amlasiantaeth effeithiol.
  • Pwysigrwydd meithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth, ym mhob cyfeiriad.

Mae ‘na lawer yn digwydd yn barod i geisio gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc niwroamrywiol yng Ngogledd Cymru.

  • Mae’r rhaglen Y Drws Cywir yn arbrofi gyda ffyrdd newydd o wella cefnogaeth. Er enghraifft, gwneud symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn haws i blant niwroamrywiol; gweld a fydd rhoi’r gefnogaeth iawn i blant 0 – 7 oed yn arwain at ostyngiad yn y nifer sydd yn gorfod aros am asesiad a rhoi cynnig ar Declyn Proffilio Niwroamrywiaeth Portsmouth, i helpu i adnabod anghenion unigolyn ifanc ac awgrymu strategaethau a allent helpu.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn gweithio i wella eu gwasanaethau i blant a phobl ifanc niwroamrywiol, yn cynnwys helpu i adnabod plant sydd angen cefnogaeth yn gynnar, rhoi cyngor a chymorth sy’n canolbwyntio ar y teulu a sicrhau bod canllawiau ac asesiadau’n hawdd i’w cael.
  • Mae Rhaglen Arloesi CAMHS( Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i wella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys prosiectau i gefnogi plant a theuluoedd sydd ar y  rhestr aros niwroddatblygiad ar ôl iddynt gael diagnosis. Mae Comisiwn Bevan yn cefnogi prosiectau i beilota a gwerthuso eu gwaith ac i ehangu os yn llwyddiannus.
  • Mae’r Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth a noddir gan Lywodraeth Cymru yn sefydlu prosiect newydd i wella cefnogaeth cyn ac ar ôl asesu, rhannu dysgu ac i gynnal ymgysylltiad ac ymchwil gyda phlant niwrowahanol a’u teuluoedd fel y gallwn eu cefnogi’n well.

Fe wnaethom drafod llawer o syniadau a bydd yn angenrheidiol i ni holi mwy o bobl yn eu cylch i weld os ydynt yn meddwl y gallant weithio ac a ydynt yn fodlon rhoi cynnig arnynt a rhoi gwybod i ni sut hwyl maen nhw’n ei gael. Rydym hefyd eisiau rhoi llawer o gyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd a’r rhai hynny sy’n eu cefnogi ar draws ein holl sefydliadau i weithio gyda’i gilydd a dysgu gan y naill a’r llall am y ffordd orau o roi cefnogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: childrensrpb@denbighshire.gov.uk

Lawrlwytho

Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad

Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad – adroddiad cryno PDF

Negeseuon allweddol o amrywiaeth o dystiolaeth am brofiadau plant brofiad plant, pobl ifanc a theuluoedd gyda chyflyrau niwroddatblygiadol yng Ngogledd Cymru.

Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad – adroddiad llawn

Mwy o wybodaeth am y dystiolaeth y tu ôl i’r negeseuon allweddol, yn cynnwys ystadegau, canfyddiadau ymchwil a storïau plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Gweld ein holl waith ‘Canolbwyntio ar…’

Ffeiliwyd dan: Anabledd dysgu, Blog, Plant a phobl ifanc

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Gogledd Cymru yn Dathlu Wythnos Anableddau Dysgu gyda Her Heicio a Beicio

Mae ymarfer gwell yn dechrau yma ac mae’n haws nag yr ydych chi’n meddwl

Wythnos Gofalwyr 2025

  • Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Digwyddiadau cerdded a beicio i ddathlu’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu
  • Ymweliad y Tîm Cyfalaf ag Ynys Môn
  • Gwasanaethau yng Ngogledd Cymru yn uno i lansio adnodd cymorth dementia newydd

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital