Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Dementia
Datblygwyd Cynllun Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ddementia Gogledd Cymru gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (sy’n cynnwys y 6 Awdurdod Lleol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr).
Mae’r cynllun yn cydnabod etifeddiaeth Rhaglen Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ddementia Cymdeithasau Alzheimer, a’r nod yw cefnogi a pharhau i gydnabod cymunedau yng Ngogledd Cymru sydd ar eu taith i fod yn fwy ystyriol o ddementia.
I ddarganfod mwy am Cymunedau Cyfeillgar i Dementia.
Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru
Mae’r chwe Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio â Chymdeithas Alzheimer, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr a NEWCIS i sicrhau bod y llwybr yn deg, yn hawdd ei gyrchu, ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pawb sy’n byw yng Ngogledd Cymru.
Mae gweithio gyda’n gilydd yn sicrhau bod pobl yn derbyn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb, rydym yn darparu cyngor, arweiniad, cefnogaeth, â’r cyfle i gwrdd ag eraill sy’n byw gyda dementia mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.
I ddarganfod mwy am yr Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru.
Offeryn Cymorth Dementia
Cysylltu cleifion, rhoddwyr gofal a pherthnasau hefo gwasanaethau cymorth dementia. Da ni’n falch o gyhoeddi’r offeryn syml ond effeithiol hwn er mwyn helpu pobl sy’n byw hefo dementia a phobl eraill sy’n gofalu amdanun nhw.
Gallwch gael mynediad i’r offeryn ar-lein yma:
Cymraeg: Cymorth Dementia | Linktree
English: Dementia Support | Linktree
Strategaeth Dementia Gogledd Cymru
Mae’r strategaeth yn nodi sut y byddwn yn gweithio tuag at wasanaethau dementia integredig yng Ngogledd Cymru. Fe’i datblygwyd ar y cyd gan chwe chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor a phartneriaid eraill.
Cysylltwch â ni
Luke Pickering-Jones, Rheolwr Prosiect Dementia
E-bost: cydweithredfagogleddcymru@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 07775697465