• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Dementia / Cynllun Cydnabod ac Achredu Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru

Cynllun Cydnabod ac Achredu Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru

Dechreuwch eich taith i ddod yn Gymuned sy’n Gyfeillgar i Ddementia, bydd ein canllaw cam wrth gam yn eich helpu i gael y dechrau gorau.

I ddarganfod mwy am Cymunedau Cyfeillgar i Dementia. 

Cysylltwch â CGDGogleddCymru@sirddinbych.gov.uk am unrhyw gyngor, cefnogaeth neu gyfer ymholiadau cyffredinol.

Peidiwch oedi i gysylltu â’n Rheolwr Prosiect Dementia a Gweinyddwr Cymunedau Gyfeillgar i Dementia i gael cyngor a chefnogaeth uniongyrchol, neu os oes angen copi papur o unrhyw un o’n dogfennau:

Melanie Sillett (Rheolwr Prosiect Dementia)

  • E-bost: melanie.sillett@denbighshire.gov.uk
  • Symudol: 07768006414

Chloe Mangnall (Gweinyddwr Cymunedau Gyfeillgar i Ddementia)

  • E-bost: karen.littler-jones@denbighshire.gov.uk

Canllaw cam wrth gam

Ffurfio grŵp llywio o unigolion o’r gymuned a fydd yn cydweithio i wneud eu cymuned yn un sy’n deall dementia yn well. Fel arfer, mae’r unigolion hyn yn rhannu’r un nodau ac amcanion ar gyfer eu cymuned. Mae’r grŵp llywio ei hun fel arfer yn cynnwys unigolion, busnesau, gwasanaethau a grwpiau ffydd sy’n cefnogi’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yn y gymuned.

Dogfennau – Ffurflen Gofrestru, Egwyddorion a Meini Prawf

Mae’n rhaid i’r grŵp llywio benderfynu ar arweinydd(ion) a fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am sicrhau bod y grŵp yn gwneud cynnydd da ar eu taith i ddeall dementia yn well.

Dogfennau – Egwyddorion a Meini Prawf

Mae’n rhaid i’r grŵp ddatblygu cynllun i godi ymwybyddiaeth am ddementia yn y gymuned. Mae modd gwneud hyn trwy ddod yn Ffrind Dementia dan fenter y Gymdeithas Alzheimer, manteisio ar hyfforddiant y Gymdeithas Alzheimer a chynnal sesiynau addysgu mewn ysgolion.

Dogfennau – Ymgyrch Stryd Fawr, Cynllun Gweithredu a Chofnod Cynnydd, Cofnod Trefniadaeth y Grŵp Llywio

Dylai pobl leol sydd wedi’u heffeithio gan ddementia fod wrth galon y cynllun. Bydd clywed ei profiadau nhw a chynnal digwyddiadau ymgynghori/cymunedol yn galluogi’r grŵp llywio i benderfynu ar y camau gweithredu gorau i’w cymuned nhw. Gallai’r grŵp hefyd wahodd unigolion sydd wedi’u heffeithio gan ddementia i’r grŵp llywio ac ymweld â gwasanaethau dementia cymunedol.

Dogfennau – ‘Fy Llais’

Cysylltwch â phobl i godi ymwybyddiaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud gan y grŵp llywio i ymgysylltu â gwahanol grwpiau o fewn y gymuned. Gallwch wneud hyn drwy gynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth dementia, cyfarfodydd cyhoeddus, cyfryngau cymdeithasol, ac ati. Mae’n rhaid i’r grŵp llywio ddangos sut y byddant yn rhannu gwybodaeth am eu camau gweithredu a’u hymrwymiad i weithgareddau sy’n ystyriol i ddementia.

Dogfennau – Marchnata ar y Cyfryngau Cymdeithasol, Ymgyrch Stryd Fawr, taflen ‘Take Action’

Rhaid i’r grŵp llywio nodi hyd at dair ardal yn eu cymuned leol lle bydd camau gweithredu yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Gallai meysydd i weithredu arnynt gynnwys y celfyddydau, siopau, myfyrwyr, grwpiau ffydd a gwasanaethau brys. Argymhellir bod cymunedau wedi bod yn gwneud newidiadau am o leiaf 3 i 6 mis cyn ymgeisio am gydnabyddiaeth.

Dogfennau – Egwyddorion a Meini Prawf, Camau Gweithredu penodol i sectorau, Cynllun Gweithredu a Chofnod Cynnydd, Ffurflen Llw

Mae’n rhaid i’r grŵp llywio ddatblygu cynllun i gofnodi a monitro cynnydd eu gwaith cymunedol a’u camau gweithredu, fel grwpiau ffocws a chyfweliadau, arolygon, asesiadau rhwng cymunedau. Mae’n rhaid iddynt allu dangos sut y byddant yn gwneud hyn cyn ymgeisio am achrediad.

Dogfennau – Egwyddorion a Meini Prawf, Cynllun Gweithredu a Chofnod Cynnydd, Cofnod Trefniadaeth y Grŵp Llywio

Mae’n rhaid i’r grŵp llywio ddangos sut maent wedi bodloni’r meini prawf uchod. Gallant wedyn gyflwyno cais am gydnabyddiaeth ac achrediad i’r panel dyfarnu. Disgwylir i’r grŵp llywio fod wedi’i sefydlu a bod yn gwneud cynnydd ar eu camau gweithredu am isafswm o dri mis cyn ymgeisio am gydnabyddiaeth.

Dogfennau – Cynllun Gweithredu a Chofnod Cynnydd, Ffurflen Gais (rhan o’r ffurflen gofrestru)

Bydd y panel dyfarnu’n cynnal cyfarfod i adolygu’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y grŵp llywio a phenderfynu a yw’n briodol dyfarnu achrediad. Bydd grwpiau achrededig yn cael sticeri cydnabyddiaeth y gallant eu rhoi i sefydliadau sy’n dymuno bod yn rhan o’r cynllun ac sydd wedi gwneud addewid am eu camau gweithredu sefydliadol.

Dogfennau – Tystysgrif(au) Cydnabyddiaeth (a sticeri ffenestr) i’w rhoi gan y panel dyfarnu

Y grŵp llywio sy’n gyfrifol am fonitro eu cynnydd i gyflwyno i’r panel ar bob dyddiad adolygu. Bydd adolygiad cychwynnol yn cael ei gynnal 6 mis ar ôl ennill yr achrediad, ac yna ar ôl 12 mis ac unwaith y flwyddyn wedi hynny. Bydd y panel yn adolygu statws yr achrediad ym mhob adolygiad. Bydd unrhyw gamau gweithredu newydd neu rai parhaus yn cael eu dynodi i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y gymuned.

Dogfennau – Cynllun Gweithredu a’r Cofnod Cynnydd

Dogfennau

Ffurflenni Cofrestru a Cheisiadau DOC
Ffurflen Cais Cofrestru Cyngor DOC
Egwyddorion a meini prawf PDF
Ymgyrch stryd fawr PDF
Cynllun gweithredu a chofnod cynnydd DOC
Log trefnidiaeth y grwp llywio DOC
Ffurflen addewid DOC
Fy Llais DOC
Fflurflen ‘Take Action’ PDF
Marchnata cyfryngau cymdeithasol PDF
Sefydliad ymgysylltu a chydnabod PDF

Dod yn Fusnes a Chymuned sy’n Cefnogi Pobl â Dementia: Canllaw Ymarferol

Ewch draw i dudalen we Prifysgol Bangor i ddarganfod eu canllaw ar ‘Dod yn Fusnes a Chymuned sy’n Cefnogi Pobl â Dementia’ yn ogystal ac adnoddau defnyddiol ychwanegol.

Bydd y canllaw yn eich helpu i ddeall dementia a’r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae’n cynnwys awgrymiadau ymarferol a gwybodaeth ddefnyddiol i’ch galluogi chi a’ch busnes neu gymuned i gefnogi pobl y mae dementia yn effeithio arnynt.

Cafodd y canllaw hwn ei greu ar y cyd ag arbenigwyr trwy brofiad sy’n byw gyda diagnosis o ddementia yn gweithio gydag academyddion mewn ymchwil dementia ym Mhrifysgol Bangor.

Ein Partneriaid

Mae ein 6 Cyngor Gwirfoddol Sirol, Medrwn Môn, Mantell Gwynedd, Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) yn bartneriaid allweddol wrth hyrwyddo cymunedau ffyniannus ar draws Gogledd Cymru drwy weithredu gwirfoddol.

Adapted from the Alzheimer’s Society

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Arganddosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025

Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru

Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru – pa gymorth sydd ar gael?

  • Gwobrau Cyfranogiad Cymdeithas Alzheimer – Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru 2024
  • Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gwahoddiad i bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, a’u ffrindiau a’u teulu
  • Canolfannau Dementia Gogledd Cymru

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital