Mae gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Is-Grŵp Plant sy’n edrych yn benodol ar faterion sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf edrychwch ar ein blog.
Canolbwyntio ar:
Wybodaeth ynglŷn â gwaith sy’n cael ei wneud yn ymwneud â blaenoriaethau penodol.
Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Mae’r bwrdd yn gyfrifol am roi’r prosiectau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc ar waith. Mae hyn yn cynnwys datblygu model o ofal i gefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel a chefnogaeth therapiwtig i blant sydd â phrofiad o ofal.
Ffiniau gofal – timau asesu a chefnogi.
Mae’r timau hyn yn darparu ymyriadau ymateb cyflym (allgymorth argyfwng) i helpu plant sy’n ei chael yn anodd adref i aros gyda’u teuluoedd, a phan nad ydi hynny’n bosibl darparu lle da iddynt fyw gyda’r gefnogaeth gywir. Mae’r timau fel a ganlyn:
- Y gwasanaeth Therapi Amlsystemig yn Sir y Fflint a Wrecsam
- Gwasanaeth Bwthyn y Ddôl yng Nghonwy a Sir Ddinbych
- Tîm Trawsnewid Gwynedd a Môn yng Ngwynedd ac Ynys Môn
Cysylltwch â ni
E-bost: sharon.hinchcliffe@denbighshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01824 706216