• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol / Ymchwil ac ystadegau / Bwletinau ymchwil (diweddariadau Asesiad Anghenion y Boblogaeth)

Bwletinau ymchwil (diweddariadau Asesiad Anghenion y Boblogaeth)

Mae’r bwletinau ymchwil hyn yn darparu tystiolaeth ystadegol a thystiolaeth arall i gefnogi ein gwaith, ac yn darparu diweddariadau i’n Hasesiad Anghenion y Boblogaeth.

Ystadegau am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru PDF

Y data diweddaraf am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru gan gynnwys ystadegau am gyfraddau cyffredinrwydd, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a dangosyddion o ddata budd-daliadau. Mae ffigurau ar gael ym mhrif gorff yr adroddiad ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, ac yn yr atodiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Wedi’i ddiweddaru Rhagfyr 2025.

Ystadegau am blant ag anableddau yng Ngogledd Cymru PDF

Y data diweddaraf am blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru ag anableddau yng Ngogledd Cymru gan gynnwys ystadegau am gyfraddau cyffredinrwydd, plant yn derbyn gofal a chymorth wanegol, dangosyddion o ddata budd-daliadau ac amcangyfrif o blant ag anghenion cymhleth. Mae ffigurau ar gael ym mhrif gorff yr adroddiad ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, ac yn yr atodiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Cyhoeddwyd Tachwedd 2025.

Ystadegau am ddangosyddion allweddol iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru PDF

Mae rhai ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a gaiff eu hystyried fel dylanwadau allweddol – neu benderfynyddion – iechyd meddwl. Gall edrych ar ddata am rai o’r ffactorau hyn roi dealltwriaeth well i ni o’r hyn a allai effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc yng ngogledd Cymru, sut fydd angen i ni gynllunio ein gwasanaethau cefnogi o bosibl, a beth fydd angen i ni roi sylw iddo yn yr amgylchedd ehangach o bosibl i helpu â’r materion hyn. Wedi’i ddiweddaru Ebrill 2025.

Ysgogwyr allweddol y galw am gymorth gan y Gwasanaethau Plant PDF

Nid yw’r gostyngiad cyffredinol yn nifer y plant yn y boblogaeth yn golygu y bydd y gofyniad am gymorth i blant a theuluoedd gan ddarparwyr gofal cymdeithasol hefyd yn gostwng. Mae rhai o’r meysydd lle rydym yn darparu cymorth wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sy’n delio â materion neu gyflyrau penodol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, neu wedi gweld niferoedd yn aros yn sefydlog. Cyhoeddwyd Awst 2024.

Amcangyfrifon o fynychder dementia yng Ngogledd Cymru PDF

Y data diweddaraf am nifer yr achosion o ddementia yng Ngogledd Cymru gan gynnwys manylion am oedran, rhyw a lefelau difrifoldeb amcangyfrifedig. Mae ffigurau ar gael ym mhrif gorff yr adroddiad ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, ac yn yr atodiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Wedi’i ddiweddaru Rhafgyr 2025.

Canolbwyntiwch ar ddementia yng Ngogledd Cymru PDF

Wedi’i ysgrifennu i gefnogi’r strategaeth dementia ranbarthol mae’r bwletin hwn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym yn bwysig iddynt, beth yr ydym yn ei wybod am ddementia yng Ngogledd Cymru, amrywiaeth a chynhwysiant mewn profiadau o ddementia, ffactorau risg a phethau eraill i edrych amdanynt, a sut mae gofal dementia yn cael ei ariannu. Cyhoeddwyd Mehefin 2025.

Galw am leoedd mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru PDF

Nad oes perthynas syml rhwng twf yn y boblogaeth o bobl 65 oed a throsodd a nifer y preswylwyr hŷn sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae sawl elfen a fydd yn effeithio ar alw yn y dyfodol nad oes modd i ni ei fodelu. Mae’r polisi hirdymor yn tueddu i ogwyddo tuag at ddarparu mwy o ofal yn y cartref ac mae gwelliannau cyffredinol yn iechyd y boblogaeth yn golygu nad yw’r galw am ofodau mewn cartrefi gofal wedi cynyddu ar yr un gyfradd â thwf yn y boblogaeth. Cyhoeddwyd Gorffennaf 2024.

Ystadegau am nam synhwyraidd yng Ngogledd Cymru PDF

Y data diweddaraf am golli golwg a cholli clyw yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys newid amcanestyniadol a data am golli synhwyraidd deuol. Cyhoeddwyd Mai 2026.

Ystadegau am oedolion anabl o oedran gweithio yng Ngogledd Cymru PDF

Y data diweddaraf am oedolion anabl o oedran gweithio yng Ngogledd Cymru gan gynnwys ystadegau am gyfraddau cyffredinrwydd, oedolion yn derbyn gofal a chymorth wanegol, dangosyddion o ddata budd-daliadau ac amcangyfrif o bobl ag anghenion cymhleth. Mae ffigurau ar gael ym mhrif gorff yr adroddiad ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, ac yn yr atodiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Cyhoeddwyd Ebrill 2026.

Ystadegau am blant ag anableddau yng Ngogledd Cymru PDF

Y data diweddaraf am blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru ag anableddau yng Ngogledd Cymru gan gynnwys ystadegau am gyfraddau cyffredinrwydd, plant yn derbyn gofal a chymorth wanegol, dangosyddion o ddata budd-daliadau ac amcangyfrif o blant ag anghenion cymhleth. Mae ffigurau ar gael ym mhrif gorff yr adroddiad ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, ac yn yr atodiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Cyhoeddwyd Tachwedd 2025.

Ystadegau am anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru – papur briffio PDF

Amcangyfrifon diweddaraf o nifer y bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys newid rhagamcanol a data am gofrestriadau meddygon teulu. Cyhoeddwyd Mehefin 2026.

Ystadegau am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn oedolion oedran gweithio yng Ngogledd Cymru PDF

Y data diweddaraf am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru gan gynnwys ystadegau am gyfraddau cyffredinrwydd, oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth gwasanaethau cymdeithasol, a dangosyddion o ddata budd-daliadau. Mae ffigurau ar gael ym mhrif gorff yr adroddiad ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, ac yn yr atodiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Cyhoeddwyd Mawrth 2026.

Ystadegau am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru PDF

Y data diweddaraf am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru gan gynnwys ystadegau am gyfraddau cyffredinrwydd, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a dangosyddion o ddata budd-daliadau. Mae ffigurau ar gael ym mhrif gorff yr adroddiad ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, ac yn yr atodiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Wedi’i ddiweddaru Rhagfyr 2025.

Ystadegau iechyd meddwl o gofrestr clefydau meddygfeydd teulu – papur briffio PDF

Mae gwybodaeth am gyffredinolrwydd clefydau, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, ar gael o gofrestrau clefydau a gynhelir gan feddygfeydd teulu, ac a adroddir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Cyhoeddwyd Ebrill 2026.

Ystadegau am ddangosyddion allweddol iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru PDF

Mae rhai ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a gaiff eu hystyried fel dylanwadau allweddol – neu benderfynyddion – iechyd meddwl. Gall edrych ar ddata am rai o’r ffactorau hyn roi dealltwriaeth well i ni o’r hyn a allai effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc yng ngogledd Cymru, sut fydd angen i ni gynllunio ein gwasanaethau cefnogi o bosibl, a beth fydd angen i ni roi sylw iddo yn yr amgylchedd ehangach o bosibl i helpu â’r materion hyn. Wedi’i ddiweddaru Ebrill 2025.

Ystadegau am ofalwyr di-dâl yng Ngogledd Cymru PDF

Mae’r bwletin hwn yn cynnwys gwybodaeth am oriau gofal, oedran a rhyw gofalwyr, gwerth gofal di-dâl a statws cymdeithasol ac economaidd gofalwyr o gymharu â’r rhai nad ydynt yn darparu gofal. Mae’r wybodaeth hon yn helpu i lunio ein Strategaeth Gofalwyr ranbarthol a gellir ei defnyddio i gefnogi ceisiadau am gyllid. Mae ffigurau ar gael ym mhrif gorff yr adroddiad ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, ac yn yr atodiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Cyhoeddwyd Gorffennaf 2025.

Proffil poblogaeth ar gyfer Gogledd Cymru PDF

Oherwydd y defnyddir data poblogaeth i wneud penderfyniadau ynglŷn â chyllid, cynrychiolaeth ac adnoddau, mae’n bwysig bod y data a ddefnyddir i fesur poblogaeth o ansawdd da. Mae data poblogaeth yn y bwletin hwn yn mesur y boblogaeth trwy ei faint, oed a rhyw ac mae’n sail i gyfrifo a chymharu cyfraddau, cymarebau a chanrannau rhwng grwpiau o bobl neu ardaloedd daearyddol. Cyhoeddwyd Chwefror 2026.

Ystadegau am dai a digartrefedd yng Ngogledd Cymru PDF

Mae tai wedi’u nodi yn Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac ar draws asesiadau anghenion Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y rhanbarth fel rhai allweddol i les meddyliol, corfforol ac emosiynol. Mae’r bwletin hwn yn dwyn ynghyd wybodaeth am y galw, cyflenwad, cost, ac ansawdd tai i’n helpu i ddeall rhai o’r materion allweddol sy’n wynebu ein trigolion, ein gweithlu a’n grwpiau poblogaeth blaenoriaeth. Wedi’i ddiweddaru Ionawr 2026.

Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Yn ogystal â darparu data am y nodweddion gwarchodedig a ddisgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, mae’r ffeiliau ar y dudalen hon hefyd yn cynnwys ystadegau am y Gymraeg, gofalwyr di-dâl a chyn-filwyr lluoedd arfog y DU. Cyhoeddwyd Ebrill 2023.

Canlyniadau allweddol o’r Cyfrifiad 2021

Crynodebau pynciau o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru a’i hardaloedd awdurdod unedol. Mae’r pynciau’n cynnwys grŵp ethnig, crefydd, prif iaith, cyn-filwyr lluoedd arfog y DU, a chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Cyhoeddwyd Ionawr 2023.

Tudalennau cysylltiedig

Y Cyfrifiad

Proffiliau ystadegol ar gyfer Gogledd Cymru

Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru

Cysylltwch â ni

Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru

Ebost: HCARGC@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 712432

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.