• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Digwyddiad Dweud Straeon

Digwyddiad Dweud Straeon

05/12/2023

Ysgogi a Gweithredu

Ar 10 Tachwedd 2023, cynhaliodd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ddigwyddiad ddweud straeon ‘Ysgogi a Gweithredu’ i bob un o’i bartneriaid i ddysgu mwy am ddweud straeon, a rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru.  Croesawodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan bawb i’r digwyddiad cyn i Dr Nick Andrews o Brifysgol Abertawe rannu cyflwyniad ar y fethodoleg Datblygu Arferion Llawn Tystiolaeth (DEEP). Gellir dod o hyd i negeseuon yn amlygu agweddau o ddigwyddiadau’r diwrnod ar X (Twitter gynt) drwy ddilyn yr hashnod #storytelling23.

Rhannwyd amrywiaeth o straeon yn ystod y bore, gan arddangos sut mae straeon yn datblygu ein dealltwriaeth o gymhlethdod pobl, a pha mor bwerus all straeon fod ar gyfer newid ffyrdd o feddwl, a chymell ac ysbrydoli ein hunain ac eraill.  Mae rhai o’r straeon a rannwyd ar gael ar Youtube:

The Rainbow Foundation – Julia, stori defnyddiwr gwasanaeth

Georgie Steele – Stori rhiant a gofalwr di-dâl

Rhannwyd enghreifftiau pellach i ddangos y ffyrdd gwahanol y gellir defnyddio straeon, roedd hyn yn cynnwys cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac mewn diwylliannau caeedig.  Ap i gefnogi iechyd meddwl yw ForMi. Mae’r ap hwn yn helpu i gynllunio gan ganolbwyntio ar yr unigolyn a chofnodi canlyniadau ar gyfer unigolion sy’n derbyn cefnogaeth wedi’i thargedu, gan alluogi’r defnyddiwr i rannu eu stori a chymryd rhan mewn sgyrsiau am bethau sy’n bwysig iddyn nhw, yn seiliedig ar eu cryfderau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.  Mewn diwylliannau caeedig, roedd straeon yn galluogi pobl i rannu’r pethau nad ydynt yn cael eu gweld a nodi profiadau na fyddai wedi cael eu datgelu drwy arolygon safonol, er enghraifft, mewn un cartref, ni chaniatawyd i breswylydd aros yn eu gwely tra roeddent yn sâl ac nid oeddent yn cael ymwelwyr heb roi 24 awr o rybudd.

Yn ystod y prynhawn, cafwyd dewis o 3 gweithdy:

  • Naratif Cyhoeddus – Prifysgol Wrecsam
  • Adegau hudol/newidiadau sylweddol – Prifysgol Abertawe a Bangor
  • Profiadau bywyd ac adrodd cymunedol – Prifysgol Caerdydd.

Mynychais y gweithdy naratif cyhoeddus.  Roedd yn amlygu pŵer naratif ar gyfer ennyn ymateb emosiynol, a sut gall rhywun fod yn arweinydd drwy gyfathrebu eu stori i sicrhau newid.  Disgrifiwyd tair elfen allweddol i ddatblygu eich stori er mwyn annog eraill i weithredu; mae’r cwestiynau hyn yn helpu i ymgorffori’r elfennau hyn: 

  • Beth yw eich angerdd? 
  • Beth fydd yn gwneud hyn yn fater brys i bobl rŵan? 
  • Pa werthoedd sy’n ein cysylltu ni?

Mewn trafodaeth, cafwyd ambell i gwestiwn a sylw diddorol, rwyf wedi nodi rhai ohonynt isod a allai fod yn ddefnyddiol wrth drafod y ffordd orau i ddefnyddio straeon.

Sut allwn ni gasglu a gweithredu ar straeon bob dydd, y tu hwnt i weithgareddau casglu straeon? 

Mae’n rhaid i ni ystyried sut i weithredu ar y straeon hyn, er mwyn sicrhau pwrpas iddynt.

Mae’n rhaid i ni sicrhau fod gennym y bobl gywir o amgylch y bwrdd i wneud gwahaniaeth.

Un safbwynt yn unig yw stori, mae’n rhaid i ni ystyried safbwyntiau gwahanol i gael y darlun llawn, defnyddwyr gwasanaeth, staff a gofalwyr, ond mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod fod bob stori yr un mor ddilys â’i gilydd.

Gellir ysgrifennu, adrodd, neu fynegi straeon drwy ddawnsio, lluniau neu ganu.  Gellir defnyddio straeon byr i gyfleu adegau bychain.

Dylid ystyried caniatâd i rannu straeon, sut cânt eu defnyddio, eu rhannu, neu eu cadw’n ddienw.  

A yw pobl yn barod i wrando?  Beth am flinder a dadsensiteiddio mewn perthynas â straeon?

Er bod perygl i rai straeon gael eu camddefnyddio i ddadlau safbwyntiau gwahanol, mae’r un peth yn wir am ystadegau neu fathau eraill o ddata.

Er bod y diwrnod wedi amlygu pŵer straeon, mae hefyd wedi amlygu’r angen am, a gwerth, mathau eraill o ddata, felly hoffwn gloi gyda’r dyfyniad isod a rannwyd.

“Educating the mind without educating the heart is no education at all.”
Aristotle

Ffeiliwyd dan: Blog, BPRh, BPRh Tagged With: digwyddiad, dweud straeon, stori

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Gogledd Cymru yn Dathlu Wythnos Anableddau Dysgu gyda Her Heicio a Beicio

Mae ymarfer gwell yn dechrau yma ac mae’n haws nag yr ydych chi’n meddwl

Wythnos Gofalwyr 2025

  • Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Digwyddiadau cerdded a beicio i ddathlu’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu
  • Ymweliad y Tîm Cyfalaf ag Ynys Môn
  • Gwasanaethau yng Ngogledd Cymru yn uno i lansio adnodd cymorth dementia newydd

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital