Mae’r BPRh Plant yn goruchwylio’r prosiectau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, sy’n rhan o’r model o ofal i gefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel a chefnogaeth therapiwtig i blant sydd â phrofiad o ofal.
Mae’r gefnogaeth yn amrywio o wasanaethau lleol sy’n camu i mewn yn gynnar ac atal problemau rhag gwaethygu a gwahanol sefydliadau a gwasanaethau yn cydweithio i ddarparu cefnogaeth, hyd at wasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn sy’n cefnogi plant mewn perygl o niwed neu rai mewn argyfwng. Mae mwy o wybodaeth am ein dull yn Strategaeth Drws Cywir
Mae prosiectau yn cynnwys y Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn dîm aml-asiantaeth yn cynnwys staff o Gonwy, Sir Ddinbych ac Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol yn darparu cymorth arbenigol ymyrraeth gynnar i deuluoedd i reoli ymddygiad heriol plant a phobl ifanc (hyd at 18 oed) yn y cartref.
Mae hefyd yn cynnwys timau cefnogaeth ddwys i blant ag anghenion cymhleth, megis y gwasanaeth Therapi Amlsystemig yn Sir y Fflint a Wrecsam, y Gwasanaeth Bwthyn y Ddôl yng Nghonwy a Sir Ddinbych a Thîm Trawsnewid Gwynedd a Môn.
Tudalennau cysylltiedig
Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Cysylltwch â ni
E-bost: sharon.hinchcliffe@denbighshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01824 706216