Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi tynnu sylw at yr angen i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi plant a phobl ifanc nad yw eu hanghenion yn cael eu hystyried yn ddigon difrifol i fod angen cymorth arbenigol ond sydd mewn trallod emosiynol a/neu sydd â phroblemau ymddygiad. Y nod yw cynhyrchu strategaeth sy’n galluogi Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a’r partneriaid Bwrdd Iechyd i gefnogi gwydnwch emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y grŵp hwn, ar draws y rhanbarth.
Mae’r strategaeth yn cynnig y ffordd orau i asiantaethau weithio gyda’i gilydd i ymateb i sbectrwm llawn anghenion plant a phobl ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl. Mae’n nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu gwasanaethau yn y dyfodol gan ddefnyddio modelau arfer da yng Nghymru a thu hwnt.